Carafan Adria Altea 461db

Trosolwg

Lleoliad

Cymru
Gwynedd
Bethesda

Gwybodaeth gyswllt

Enw Cyswllt: Amanda Davies

Ffôn: 07811333320

E-bost: danfonwch e-bost

Disgrifiad

Carafan modern- steil ewropaidd, llawr laminate, seddi a lleni glas plaen, cypyrddau pren golau. Mae carped maint llawn ar gael ond heb ei ddefnyddio- roedd yn well gennyn ni'r llawr pren a matiau rhydd.

Ddim yn smygwyr a dim anifeiliad anwes wedi bod tu mewn.

Cyflwr da iawn am ei oed. Chydig a fanion cosmetic ond bob dim yn gweithio iawn a dim tamprwydd.

Man eistedd yn y tu blaen yn troi i mewn i wely King size. Man eistedd yn y cefn yn troi i mewn i wely dwbl gyda bync sydd yn addas ar gyfer plentyn uwch ei ben. Partisiwn yn medru cau ar draws y cefn, sydd yn handi gyda plant bach neu mae modd adael y gwely cefn wedi gosod a chau'r drws yn ystod y ddydd.

Adlen maint llawn gyda llenni a charped.

Cegin gyda hob 3 burner nwy, oergell sy'n gweithio ar nwy neu trydan. Dim popty ond rydym wedi prynu popty bach trydan i'w ddefnyddio'n achlysurol.

Gwresogydd nwy a system gwresogi "blown air".

Ystafell molchi- toiled thetford, sinc a chawod er dydyn ni eroied wedi ei ddefnyddio.

System gwresogi dwr, batri hamdden, potel nwy, stabiliser alko a containers dwr glan a budr sy'n rolio.

Manuals a ffeil gwreiddiol y garafan ar gael.

Mae'n garafan ysgafn - bosib i'w dynnu gyda car teulu maint canolig.

Hapus i drefnu cyfle i weld y garfan ym Methesda neu ateb unrhyw gwestiynau:

07811 333320/ a.d.davies@tydwr.co.uk