Agor llwybrau newydd yng Nghoedtir Llynfi

13/06/2018

Categori: Amgylchedd, Chwaraeon, Hamdden, Newyddion

Mae tri llwybr newydd wedi agor yng Nghoetir Ysbryd Llynfi ger Maesteg gan Cyfoeth Naturiol Cymru a fydd yn ddelfrydol ar gyfer rhedwyr.

Mae rhedeg llwybrau yn prysur ddod yn un o'r gweithgareddau mwyaf poblogaidd ymhlith athletwyr newydd ac athletwyr profiadol fel ei gilydd ac yma yng Nghymru rydym yn ffodus o gael rhai o'r llwybrau mwyaf heriol yng Ngwledydd Prydain – sydd â rhai o'r golygfeydd mwyaf prydferth hefyd.

 

Esboniodd Geminie Drinkwater, swyddog yr amgylchedd yn Cyfoeth Naturiol Cymru: "O'r cychwyn cyntaf, prif ysgogwr prosiect Ysbryd Llynfi oedd iechyd a lles y cymunedau cyfagos yn ogystal â manteision amgylcheddol megis lleihau perygl llifogydd a hybu bioamrywiaeth.

 

"Darganfu ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod eich disgwyliad oes iach, os ydych dros 50 oed ac yn byw yn yr ardal hon, yn 20 mlynedd yn llai nag os oeddech chi'n byw ddim ond naw milltir i ffwrdd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

 

"Mae pobl eisoes yn mwynhau'r llwybrau cerdded a beicio ac mae'r llwybrau rhedeg yn ychwanegiad sy'n cael ei groesawu i'r man gwyrdd gwych hwn."

 

Gall rhedwyr ddewis o lwybrau 5km, 3km ac 1km o hyd. Mae gan y llwybrau gyfeirbwyntiau ac maent yn addas ar gyfer ystod gallu a lefelau ffitrwydd.

 

Mae'r llwybrau'n cynnwys ffyrdd coedwig, llwybr wedi'i darmacio ac adran fer o ffordd un trac, gyda mwd a chreigiau achlysurol ac amrywiaeth o raddiannau yn dibynnu ar lefel anhawster y llwybr.

 

Newid er gwell

 

Ychwanegodd Geminie:"Datblygodd Cyfoeth Naturiol Cymru'r llwybrau mewn partneriaeth â Rhedeg Cymru, Sustrans a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac roedd y prosiect yn cael ei ariannu yn rhannol trwy grant 'Newid er Gwell' a weinyddwyd gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr.

 

"Mae'r ysbrydoliaeth ar gyfer y llwybrau rhedeg yng Nghoetir Ysbryd Llynfi wedi dod o'r gymuned ac mae'n ymwneud â dod â phobl a natur yn agosach at ei gilydd a sicrhau bod pobl yn cymryd rhan weithgar yn y cefn gwlad sydd ar garreg eu drws."