Angen gwrthod cynlluniau anuchelgeisiol dros addysg Gymraeg

30/01/2017

Categori: Addysg, Iaith, Newyddion

Mae angen i Weinidog y Gymraeg wrthod cynlluniau anuchelgeisiol i ddatblygu Addysg Gymraeg gan Awdurdodau Lleol, yn ôl tri aelod cynulliad.

Fe wnaed yr alwad mewn llythyr trawsbleidiol sydd wedi ei anfon at Alun Davies AC yr wythnos hon.

 

Mae gofyn i pob Sir gyflwyno Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg newydd ar gyfer y cyfnod 2017-20 i gael eu cymeradwyo gan y Llywodraeth. Mae disgwyl i'r Gweinidog arfarnu'r Cynlluniau hyn dros y misoedd nesaf.

 

Yn y llythyr mae Llyr Huws Gruffydd AC, Jeremy Miles AC a Darren Millar AC yn manylu ar restr sylweddol o bryderon sydd wedi eu codi gan fudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg.

 

Mae'r gwendidau hynny'n cynnwys:

  • Ychydig iawn o fanylion am sut bydd y Siroedd yn darparu rhagor o leoedd ar gyfer addysg Gymraeg.
  • Ychydig iawn o wybodaeth am sut mae Siroedd am roi gwybod i rieni am fanteision addysg Gymraeg.
  • Ychydig iawn o sylw i weledigaeth y Llywodraeth o weld twf cyflym addysg Gymraeg.

 

Yn ôl Llyr Huws Gruffydd AC, "Mae yna broblem sylfaenol gyda chynlluniau llawer o gynghorau er mwyn ehangu'r defnydd o'r Gymraeg. Yn ôl y Llywodraeth, mae gan addysg rhan hanfodol i'w chwarae os ydym am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Bydd angen o leiaf 18,000 o siaradwyr Cymraeg ychwanegol arnom bob blwyddyn dros gyfnod o 30 mlynedd er mwyn cyrraedd y miliwn, felly mae'n hanfodol bod y Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg newydd yn cyflawni hyn. Nid yw'r Cynlluniau presennol yn dod yn agos at gyrraedd y

nod. Ni ddylai'r Gweinidog dderbyn unrhyw Gynllun sy'n dangos diffyg o ran yr uchelgais sydd ei angen."

 

Dywedodd Jeremy Miles AC,  "Mae'n holl bwysig i ffyniant y Gymraeg a llwyddiant y strategaeth iaith bod Cynlluniau uchelgeisiol a chreadigol yn cael eu sefydlu. Rwy'n gobeithio gwnaiff y Llywodraeth wneud safiad clir iawn a sicrhau na dderbynir unrhyw

Gynlluniau gwan."

 

Dywedodd Darren Millar AC, "Mae yna ddiffyg uchelgais tuag at gynyddu darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg ymysg rhai awdurdodau lleol yng Nghymru. Dylai'r cynlluniau hyn fod yn sylfaen gadarn er mwyn cyrraedd y targed o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Rhaid i'r Gweinidog ofyn am ymagwedd fwy uchelgeisiol gan Gynghorau ym mhob rhan o Gymru. Ni fydd unrhyw beth llai na hyn yn dderbyniol. "

 

Dim uchelgais

 

Ychwanegodd Lynne Davies, Cadeirydd Cenedlaethol Rhieni dros Addysg Gymraeg, "Nid yw mwyafrif y Cynlluniau yn eu ffurf bresennol yn cryfhau a chynyddu argaeledd addysg cyfrwng Cymraeg nac ychwaith yn arddangos yr uchelgais sy'n ddisgwyledig gan Lywodraeth Cymru.Mae angen felly i'r siroedd bennu targedau clir a chydlynol yn seiliedig ar y weledigaeth fod dyletswydd arnynt bellach nid yn unig i ddiwallu'r galw ond yn hytrach i hybu twf. Mae'r mudiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymateb yn gadarn, ac yn pwyso ar y Gweinidog i ddefnyddio'r grymoedd sydd yn ei feddiant i herio Cynlluniau sy'n methu â chyflawni hyn."

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru