Tanysgrifio i RSS

Wedi darganfod 63 cofnodion | Tudalen 7 o 7

Menter y we yn cynnig mwy o gysur i g...

07/07/2014
Categori: Ar-lein, Iechyd

Menter y we yn cynnig mwy o gysur i gleifion


Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Matt Makin


Bydd menter newydd yn cael ei lansio'r wythnos hon i ganiatau cleifion i bori'r rhyngrwyd pan fyddant yn nhri phrif ysbyty Gogledd Cymru.
 
Bydd systemau Wifi cyhoeddus sydd wedi cael eu gosod yn Ysbyty Maelor Wrecsam, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Gwynedd yn mynd yn fyw ddydd Gwener, 11 Gorffennaf gan roi mynediad i gleifion a'r cyhoedd at y we unwaith y byddant yn dod i mewn i brif adeiladau'r ysbytai.
 
Mae'n rhad ac am ddim cyrchu'r system a bydd pob ffôn deallus a thabled gyfrifiadurol â gallu wifi yn synhwyro'r system wrth ddod i mewn i'r adeilad, ac yn cyfeirio'r defnyddiwr at dudalen lanio arbennig i ryngrwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
 
...

darllenwch mwy

Matthew Rhys yn llysgennad Sioe Gerdd...

02/07/2014
Categori: Addysg, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Iaith

Matthew Rhys yn llysgennad Sioe Gerdd Theatrig yr Urdd a Clwyd Theatr Cymru Theatr


Llysgennad Sioe Gerdd Theatrig yr Urdd a Clwyd Theatr Cymru Theatr ar gyfer Pobl Ifanc

Mae’r actor Matthew Rhys heddiw wedi ei gyhoeddi fel llysgennad cynllun cyffroes rhwng Urdd Gobaith Cymru â Clwyd Theatr Cymru Theatr ar gyfer Pobl Ifanc.
 
Yn 2015 i ddathlu 150 o flynyddoedd ers i’r Cymry cyntaf ymfudo o Lerpwl i Batagonia bydd yr Urdd yn cydweithio mewn partneriaeth â Clwyd Theatr Cymru ar gynhyrchiad arbennig a fydd yn portreadu’r siwrne i Batagonia ar y Mimosa yn 1865.
 
Fe fydd y cynhyrchiad yn rhoi cyfle i 15 o bobl ifanc o Gymru a 5 o Batagonia i berfformio yn y cynhyrchiad arbennig hwn.
 
Dywed Matthew Rhys “Mae’n fraint i fod yn llysgennad y cynllun yma sy’n cynnig cyfleodd amhrisiadwy i bobl ifan ...

darllenwch mwy

Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig (SCG) ...

01/07/2014
Categori: Addysg, Cerddoriaeth, Iaith

Mae Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig (SCG) wedi dod â gweithrediadau’r cwmni i ben. 
 
Dyma ddatganiad gan y sefydliad isod.
 
Gyda thristwch mawr, o heddiw, Dydd Mawrth 1 Gorffennaf 2014 ymlaen, mae Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig (SCG) yn dod â gweithrediadau’r cwmni i ben.
 
Daeth cytundeb cyllid-craidd tair blynedd cyfredol SCG â Llywodraeth Cymru i ben ddoe, ar 30 Mehefin 2014. Er gwaethaf ein hymdrechion dros y naw mis diwethaf i drafod parhad y cyllid-craidd, ni ystyriai’r Bwrdd bod cynnig Llywodraeth Cymru o estyniad chwe mis, i alluogi’r cwmni i sicrhau ffrwd arall o incwm tra’n parhau i ddarparu’r gwasan ...

darllenwch mwy