Tanysgrifio i RSS

Wedi darganfod 56 cofnodion | Tudalen 3 o 6

Cwmni Arriva yn cam-ynganu enwau

19/02/2015
Categori: Iaith, Newyddion

Y mae landlord Tafarn y Plu, Llanystumdwy ger Criccieth wedi gwneud cwyn swyddogol i gwmni trenau Arriva, yn dilyn camynganiad enwau lleoedd ar yr uchelseinydd. 
 
Y mae Ian Parri sy’n gyn-golofnydd gyda’r Daily Post hefyd wedi hysbysu  Comisiynydd y Gymraeg am gam-ynganiad enwau ar yr uchelseinydd yn ystod taith ar lein rhwng Blaenau Ffestiniog a Llandudno. 
 
Y mae’r llythyr yn nodi, ‘Ddoe bûm yn disgwyl am un o'ch trenau yng ngorsaf Dolwyddelan. Roedd tua 5 o'r 7 teithiwr oedd yn disgwyl yn siarad Cymraeg, ond cafwyd cyhoeddiad uniaith Saesneg ar yr uchelseinydd yn ein hysbysu bod y trên ar ei ffordd o Flaenau Ffestiniog.&rs ...

darllenwch mwy

Miloedd o goed yn cael eu plannu yng ...

19/02/2015
Categori: Hamdden, Newyddion

Miloedd o goed yn cael eu plannu yng Nghoedwig Cwmcarn


Plannu miloedd o goed yng Nghwmcarn

Mae degau o filoedd o goed yn cael eu plannu yng Nghoedwig Afan ar hyn o bryd i gymryd lle’r coed llarwydd a gafodd eu cwympo yn ystod y pedair blynedd diwethaf.
 
Mae gwahanol fathau o goed yn cael eu plannu yn lle’r llarwydd er mwyn darparu coed ar gyfer cynhyrchu pren yn y dyfodol, yn ogystal â chreu mwy o gynefinoedd brodorol i fywyd gwyllt.
 
Cafodd oddeutu 650 hectar o goed llarwydd eu cwympo yng Nghoedwig Afan er mwyn mynd i’r afael â Phytphthora ramorum, sef clefyd ffwng sy’n lladd y coed.
 
Yn ôl y cynlluniau hirdymor ar gyfer y goedwig bydd amrywiaeth ehangach o rywogaethau coed yn cael eu plannu er mwyn galluogi’ ...

darllenwch mwy

Dau enwebiad i S4C yn Ngwyl Ffilm Efr...

19/02/2015
Categori: Hamdden, Newyddion

Dau enwebiad i S4C yn Ngwyl Ffilm Efrog Newydd


Hanes a Chymdeithas wedi cael enwebiad

Y mae dwy o raglenni dogfen S4C wedi cael eu henwebu ar gyfer seremoni Gŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd 2015.
 
Mae'r ffilm bortread o'r diweddar hanesydd Dr John Davies Gwirionedd y Galon: Dr John Davies wedi ei henwebu yng nghategori 'Bywgraffiad/Portread'.
 
Daw'r newydd am yr enwebiad ychydig o ddyddiau ar ôl marwolaeth y cawr o hanesydd a ysgrifennodd un o glasuron mawr yr ugeinfed ganrif, Hanes Cymru.
Yn y categori 'Hanes a Chymdeithas' mae'r gyfres ddogfen Adam Price a Streic y Glowyr wedi cael enwebiad.
 
Mae'r ddogfen Gwirionedd y Galon: Dr John Davies sy'n gynhyrchiad Telesgop eisoes wedi cael cryn lwyddiant a chanmoliaeth, gan ennill ...

darllenwch mwy

Hen ysgol ym Mhencader ar raglen Rest...

18/02/2015
Categori: Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Newyddion

Hen ysgol ym Mhencader ar raglen Restoration Man


Restoration Man yn dod i Bencader

Bydd prosiect unigryw ym Mhencader, Sir Gaerfyrddin i drawsnewid ysgoldy o'r 19eg ganrif yn arddangosfa technolegau gwyrdd yn cael sylw ar raglen deledu boblogaidd ar Sianel 4, 'Restoration Man' yr wythnos hon. 
 
Mae'r rhaglen yn edrych ar waith diweddaraf Jayne ac Ian Hall-Edwards, sydd yn y broses o atgyweirio Hen Ysgol Pencader, a bydd y gwylwyr yn cael cipolwg ar y gwaith sydd wedi mynd rhagddo ers iddynt ymddangos gyntaf ar y rhaglen.
 
Mae'r cwpwl wrthi’n trawsnewid ac yn adnewyddu yr adeilad hanesyddol yn ganolfan eco-dechnoleg gwyrdd cynaliadwy fydd yn cynnwys arddangosfa a chanolfan werthu ar gyfer technolegau gwyrdd a chanolfan hyfforddi newydd sgiliau mew ...

darllenwch mwy

Newid enw yn cythruddo

18/02/2015
Categori: Iaith, Newyddion

Newid enw yn cythruddo


Newid enw yn cythruddo

Yn dilyn cynhadledd yn ddiweddar yng Ngwersyll yr Urdd Glanllyn am adfer a diogelu enwau lleoedd, mae yna arwydd dadleuol wedi cael ei osod yn Maenclochog yn Sir Benfro, sydd wedi cythruddo pobl ar Trydar yr wythnos hon, ble y mae’n nodi fod enw gwreiddiol yr annedd wedi newid i’r enw Saesneg newydd. 
 
Mae’r blogiwr  @cneifiwr wedi derbyn dros 70 o ail-drydariadau ers iddo bostio’r llun ddydd Llun ac wedi derbyn ymateb syfrdanol gan ei gyd-drydarwyr, yn cydymdeimlo ac yn condemnio’r datblygiad. Mae'n debyg mai Westland West oedd enw'r annedd ar ryw bwynt yn gorffennol, ond ni ellir gwadu fod y newid enw yn dangos tuedd ehangach.  
 
...

darllenwch mwy

Os gwelwch yn dda ga'i grempog?

17/02/2015
Categori: Bwyd, Hamdden

Os gwelwch yn dda ga'i grempog?


Diwrnod Crempog heddiw

Er mwyn gwlychu’r gweflau, a chan ei bod yn ddiwrnod crempog heddiw, rydym yn Lleol.Cymru am glodfori’r crempog annwyl. Pa fath o grempog ydych chi’n licio? Ai un tew albanaidd, neu’r hen grempog canolig Cymreig ynteu grempog tenau Ffrengig? Mae’r cwestiwn hwn yn hynod bwysig sy'n cymryd sylw'r Genedl.
 
Dydd Mawrth Ynyd yw'r diwrnod o flaen Dydd Mercher Lludw, sef y diwrnod olaf cyn dechrau gŵyl y Grawys yn y calendr Cristnogol. Daw’r "Dydd Mawrth Ynyd, crempog bob munud". Daw'r gair Cymraeg 'ynyd' o'r gair Lladin initium ('cychwyn'), sy’n cyfeirio at agosáu'r Grawys.
 
Mae yna drafodaeth danllyd yn digwydd mae'n siwr ar hyd a ...

darllenwch mwy

Teyrngedau i John Bwlchllan

17/02/2015
Categori: Newyddion

Teyrngedau i John Bwlchllan


John Davies Bwlch Llan

Mae'r hanesydd, y darlithydd a'r darlledydd John Davies wedi marw yn 76 mlwydd oed.  Cafodd John Davies eni ym 1938 yng Nghwm Rhondda, ac oddi yno, fe symudodd y teulu i bentref Bwlchllan ger Llanbedr Pont Steffan pan oedd yn saith oed ac roedd yn cael ei adnabod ar lawr gwlad fel John Bwlchllan.
 
Graddiodd mewn hanes ym Mhrifysgol Caerdydd ble yr aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg y Drindod Caergrawnt. Dychwelodd i Gymru ar ôl cael ei benodi yn ddarlithydd hanes Cymru ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth a bu hefyd yn warden poblogaidd yn Neuadd Gymraeg Pantycelyn. Gadawodd Aberystwyth wedyn i ymddeol yng Nghaerdydd. 
 
Mae ei gyfrol Hanes Cymru yn cael ei chydn ...

darllenwch mwy

Huw Jones yn talu teyrnged i John Davies

17/02/2015
Categori: Llenyddiaeth, Newyddion

Huw Jones yn talu teyrnged i John Davies


Huw Jones yn talu teyrnged i John Davies

Talodd Gadeirydd S4C, Huw Jones deyrnged i'r hanesydd John Davies yn dilyn ei farwolaeth yr wythnos hon yn 76 oed.
 
Fe wnaeth John Davies gyfrannu i ystod o gyfresi a rhaglenni S4C yn ogystal ag ysgrifennu llu o gyhoeddiadau fu'n ganolog i astudiaethau hanesyddol am Gymru yn yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain.
 
Ymhlith ei gyfraniadau diweddar roedd y ffilm bortread afaelgar a gonest ohono yn y rhaglen Gwirionedd y Galon (cynhyrchwyr Telesgop) a gafodd gymaint o ganmoliaeth. Roedd hefyd yn gyflwynydd y rhaglen 100 Lle (Apollo, rhan o Boom Cymru) a aeth â ni ar daith gofiadwy i rai o greiriau a safleoedd pwysicaf hanes Cymru.
 
Meddai Huw Jones, Cadeiryd ...

darllenwch mwy

Cwrs golff amgylcheddol y flwyddyn

17/02/2015
Categori: Chwaraeon, Hamdden, Newyddion

Cwrs golff amgylcheddol y flwyddyn


Cwrs St. David's wedi ennill gwobr

Mae cwrs golff St. David’s yn Harlech ymhlith y clybiau gorau yng Nghymru ac yn un o’r prydferthaf hefyd, gyda’r môr a a mynyddoedd Eryri yn gefndir. Ond yn ddiweddar enillodd y clwb wobr Brydeinig o bwys am y gwaith yn creu cynefinoedd newydd ar gyfer bywyd gwyllt.
 
Derbyniodd Clwb Golff Royal St David’s yn Harlech “Cwrs Golff Amgylcheddol y Flwyddyn 2015” yn y Gwobrwyon Amgylchedd Golff Prydeinig. 
 
Cydnabyddir y Clwb, sydd eisoes yn enwog am y cwrs anodd ond hefyd bellach yn cael ei ystyried am ei gymwysterau amgylcheddol. Gan weithio â Cyfoeth Naturiol Cymru, mae’r Clwb wedi creu pyllau tywod mwy naturiol, a thra ...

darllenwch mwy

Mynediad i safleoedd Cadw am ddim dro...

16/02/2015
Categori: Addysg, Hamdden, Newyddion

Mynediad i safleoedd Cadw am ddim dros ddydd Gwyl Dewi


Castell Dolwyddelan: Un o safleoedd sydd am ddim

Mae Cadw wedi cyhoeddi bydd mynediad i gestyll ar draws y wlad am ddim ar ddydd Sul, Mawrth y 1af i ddathlu diwrnod ein nawddsant.
 
Bydd ymwelwyr yn gallu bwrw golwg dros fwy na 6,000 o flynyddoedd o hanes ar draws 129 o safleoedd Cadw ledled Cymru, gan gynnwys dau safle Treftadaeth y Byd - Gwaith Haearn Blaenafon yn y de, rhan o Dirwedd Treftadaeth y Byd Blaenafon, a Chestyll Edward I yn y gogledd (Caernarfon, Conwy, Biwmares a Harlech). Mae cestyll, abatai a chaerau Rhufeinig yn ddim ond rhai o'r henebion diddorol sy'n barod i groesawu ymwelwyr ar Ddydd Gŵyl Dewi.
 
Teithiodd Dewi Sant drwy dde Cymru a gorllewin Lloegr yn y 6ed ganrif, gan sefydlu canolfannau crefyddol ar hy ...

darllenwch mwy