Arwyddion cadarnhaol effaith y Safonau Iaith, yn ôl mudiad iaith 

28/03/2017

Categori: Iaith, Newyddion

Mae 73% yn fwy o swyddi cynghorau sir yn gofyn am sgiliau Cymraeg ers i ddeddfwriaeth iaith newydd ddod i rym, yn ôl ymchwil gan Gymdeithas yr Iaith.  

Yn ôl ymatebion i geisiadau rhyddid gwybodaeth, dros gyfnod o chwe mis, hysbysebodd deg cyngor sir ganran uwch o'u swyddi fel rhai Cymraeg yn hanfodol wedi i'r Safonau Iaith newydd ddod i rym o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, gyda dim ond tri yn adrodd cwymp. Fel cyfanswm, yn yr awdurdodau lleol lle roedd data cymharol ar gael, bu cynnydd o 73% – o 352 i 607 – yn nifer y swyddi a hysbysebwyd fel rhai roedd angen cyfathrebu yn Gymraeg i ryw lefel ar eu cyfer. 

 

Ymysg y siroedd a adroddodd gynnydd yng nghanran y swyddi Cymraeg hanfodol roedd Ynys Môn, Conwy, Merthyr Tudful, Torfaen, Rhondda Cynon Taf a Bro Morgannwg. Ers i'r ddeddfwriaeth newid, mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi symud at system sy'n golygu fod pob swydd yn gofyn am rywfaint o sgiliau Cymraeg. Dim ond yng Ngwynedd, Caerdydd a Phowys y gwelwyd cwymp yng nghanran y swyddi lle mae'r Gymraeg yn hanfodol. 

 

Wrth ymateb i'r ystadegau, dywedodd Manon Elin, cadeirydd grŵp hawl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae arwyddion cadarnhaol yn y ffigyrau hyn, ond mae 'na ffordd bell i fynd o hyd. Mae cynllunio'r gweithlu'n iawn yn allweddol os yw cynghorau'n mynd i gynyddu defnydd y Gymraeg a bodloni hawliau sylfaenol pobl i dderbyn gwasanaethau yn y Gymraeg. Methodd yr hen gyfundrefn o gynlluniau iaith â chyflawni hynny, felly mae'n destun gobaith bod arwyddion cynnar y gallai'r Safonau fod yn wahanol. "

 

"Dadleuon ni wrth y Llywodraeth wrth iddynt lunio'r Safonau, y dylen nhw fod wedi creu Safonau lefel uwch ar gyfer siroedd lle mae gweinyddu'n fewnol drwy'r Gymraeg yn amcan neu'n bolisi presennol gan y Cyngor. Rydyn ni'n dal i gredu bod angen i'r system ymateb i anghenion rhai ardaloedd a chyrff, fel Cyngor Gwynedd, yn well yn hynny o beth." 

 

Er y cynnydd, mae hanner yr awdurdodau lleol wedi gwneud sgiliau Cymraeg yn ofynnol ar gyfer llai na 5% o'r holl swyddi maen nhw'n eu hysbysebu, gyda thair sir – Sir Benfro, Mynwy a Phowys – yn hysbysebu llai nag un y cant o'u swyddi gan ofyn am sgiliau Cymraeg.  

 

"Mae'n gwbl glir os yw cyngor yn hysbysebu canran fach iawn o swyddi gan ofyn am sgiliau Cymraeg, na fydd modd iddyn nhw ddarparu gwasanaethau Cymraeg digonol na chynyddu defnydd y Gymraeg yn fewnol chwaith. Yn wir, mae eu polisi recriwtio yn cael effaith negyddol sylweddol ar y Gymraeg yn lleol gan eu bod yn recriwtio llai o siaradwyr Cymraeg na'r ganran yn eu hardal.  

 

Arwyddion gobeithiol

 

Ychwanegodd Maon Elin, "Wrth i'r Llywodraeth baratoi i gryfhau'r ddeddfwriaeth dros y blynyddoedd nesaf, mae cynllunio'r gweithlu'n well yn un maes y dylid edrych arno gan adeiladu ar yr arwyddion gobeithiol cychwynnol sydd i'w gweld yn yr ystadegau hyn. Wedi'r cwbl, mae angen cryfhau'r Mesur Iaith er lles pobl a'r Gymraeg, nid er lles y biwrocratiaid. Dyna pam fod angen sefydlu hawliau cyffredinol i'r Gymraeg ar wyneb y ddeddf, ei hymestyn i gynnwys gweddill y sector breifat a gwella cynllunio'r gweithlu."   

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru