Carwyn Jones am ddisodli'r drefn o ddysgu'r Gymraeg fel ail iaith

Mae'r Prif Weinidog wedi dweud wrth ymgyrchwyr iaith y bydd yn disodli'r system bresennol o ddysgu'r Gymraeg fel ail iaith gydag un 'continwwm' dysgu Cymraeg i holl blant Cymru. 

 

Ar hyn o bryd, mae disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a rhai mewn ysgolion sy'n galw eu hunain yn 'ddwyieithog' yn sefyll arholiad Cymraeg gwahanol ac israddol i'r rhai sy'n astudio'r Gymraeg fel iaith gyntaf. Ym mis Medi 2013, datganodd adroddiad gan yr Athro Sioned Davies a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru: “Ni ellir gwadu ei bod yn unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith … rhaid newid cyfeiriad, a hynny fel mater o frys cyn ei bod yn rhy hwyr.”  Argymhellodd hefyd sefydlu un continwwm ar gyfer dysgu'r Gymraeg.  

 

Mewn llythyr at Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dilyn cyfarfod ychydig wythnosau yn ôl, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei fod ynghyd a’r Gweinidog Addysg Huw Lewis wedi dod i'r un casgliad, "Rydym o’r farn bod y cysyniad “Cymraeg fel ail iaith” yn creu gwahaniaeth artiffisial, ac nid ydym o’r farn bod hyn yn cynnig sylfaen ddefnyddiol ar gyfer llunio polisïau at y dyfodol. Efallai mai’r ffordd orau o ddisgrifio’r gallu i gyfathrebu drwy’r Gymraeg yw fel pont neu “gontinwwm” y gall unigolion gael mynediad ato ar wahanol fannau, yn unol â’u gallu. Dylem edrych ar bawb ar y bont honno mewn ffordd bositif, ac annog pobl sy’n defnyddio’r Gymraeg ar unrhyw lefel i ystyried eu hunain yn siaradwyr Cymraeg, heb osod labeli artiffisial."

 

Yn ol Carwyn Jones, "Rhaid i’n system addysg hyrwyddo uchelgais ar gyfer y Gymraeg, a chynnig digon o hyblygrwydd i fodloni gwahanol ofynion gan wahanol rannau o gymdeithas. Wrth inni gamu ymlaen, rhaid i’r polisi symud i ffwrdd o’r cysyniad o “ail iaith” tuag at ystyriaeth integredig a chydlynol o’r Gymraeg fel iaith wirioneddol fyw. Wrth reswm, bydd heriau’n codi wrth inni ddatblygu Cwricwlwm newydd i Gymru sy’n bodloni ein dyheadau, ond mae Llywodraeth Cymru yn llwyr ymrwymedig i’r dull hwn." 

 

Newyddion cadarnhaol

 

Wrth groesawu'r datganiad, meddai Toni Schiavone, Cadeirydd Grwp Addysg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, "Mae'n newyddion cadarnhaol a chalonogol iawn. Bellach mae consensws trawsbleidiol eang, yn ogystal ag ymrwymiad gan y Prif Weinidog, bod angen newidiadau sylweddol. Mae'r system addysg ail iaith yn methu'r rhan helaeth o'n pobl ifanc, er bod enghreifftiau o athrawon yn cyflawni gwyrthiau o fewn y drefn ffaeledig bresennol. Dylai pob un disgybl gadael ysgol gyda'r gallu i gyfathrebu a gweithio drwy'r Gymraeg. Un ffordd o wneud hynny yw dileu'r llwybr eilradd, ail iaith, sy'n bodoli ar hyn o bryd. Mae'r Prif Weinidog yn iawn i ddweud mai gallu'r disgybl, yn hytrach na gallu, neu anallu, unrhyw sefydliad addysg, yw'r hyn y dylai cyfrif o ran dysgu'r Gymraeg.    

"Mae 'na her nawr i'r swyddogion sy'n datblygu'r cwricwlwm newydd i weithredu ar eiriau'r Prif Weinidog yn hytrach nag amddiffyn y status quo fel sydd wedi bod yn digwydd.  Yn y pendraw, rydym yn credu bod angen symud at system, fel sydd gyda nhw yng Ngwlad y Basg, lle mae ysgolion naill ai'n dysgu'r holl gwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg neu ran sylweddol ohono fe."  

 

Ychwanegodd Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: "Mae hi wedi bod yn glir ers cryn amser bod y drefn Cymraeg Ail Iaith yn aneffeithiol, ac wedi bod yn rhwystro datblygiad plant a phobl ifanc i'w llawn potensial. Rydym ni'n croesawu'n fawr y datganiad ar ran y Prif Weinidog a'r Gweinidog Addysg; mae UCAC yn cyd-fynd â'u barn mai continwwm iaith yw'r ffordd orau ymlaen i ddatblygu cenedl wirioneddol ddwyieithog. Edrychwn ymlaen at weld camau gweithredu pendant a buan gan y Llywodraeth, gan gynnwys yn rhan o'r broses o lunio cwricwlwm newydd i Gymru." 

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru