Cyhoeddi cyfrol sy'n adrodd ein stori ni

04/04/2017

Categori: Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Mae angen defnyddio hanes Cymru fel ffordd o roi hyder i’r Cymry yn y byd sydd ohoni’ - dyma yw’r neges sydd yn cael ei phwysleisio mewn cyfrol newydd sbon a gyhoeddir yr wythnos hon gan wasg Y Lolfa.

Llyfr hanes sy’n cyflwyno Cymru mewn goleuni newydd yw Ein Stori Ni – Golwg Newydd ar Hanes y Cymry gan Emrys Roberts. Rhoddir trosolwg cryno dros hanes Cymru o gyfnod y Brythoniaid hyd heddiw gan gyflwyno darlun newydd, gwahanol o hanes Cymru gyda phwyslais ar lwyddiannau a chryfderau’r genedl.

 

Mae’r llyfr yn cyflwyno nifer o ffeithiau dadlennol am Gymru gan gynnwys iddi gynhyrchu dyn a oedd yn ‘fwy cyfrifol na Charles Darwin am ddatblygu theori esblygiad’ a menyw a oedd o leiaf ‘yr un mor gyfrifol’ â Florence Nightingale am ddatblygu’r maes nyrsio. Datgelir y modd y bu Cymru yn arweinydd byd-eang yn ystod dechrau’r Chwyldro Diwydiannol hefyd; gyda’r dref ddiwydiannol gyntaf yn y byd wedi ei lleoli yng Nghymru; a’r trên stêm cyntaf yn y byd  wedi mynd ar ei thaith gyntaf o’r wlad.

 

‘Mae gan ein cenedl fechan ni, o ryw dair miliwn o bobl erbyn hyn, hanes y gallwn ymfalchïo ynddo’ meddai’r awdur, Emrys Roberts, ‘Wrth edrych ymlaen i’r dyfodol, mae’n hanfodol weithiau inni edrych yn y drych cefn i weld beth sydd y tu ôl inni. Credaf pe baen ni’r Cymry’n fwy ymwybodol o’n hanes, ein stori genedlaethol, y byddai mwy o hyder gennym wrth wynebu’r dyfodol ac adeiladu cymdeithas well’.

 

Cafodd ei ysgogi i ysgrifennu’r gyfrol – yn y Gymraeg a’r Saesneg, wedi i gyfaill iddo ddatgan yn ystod ymgyrch refferendwm annibynniaeth yr Alban yn 2014 nad oedd yn ‘teimlo yn Gymraeg’ nac yn ‘gwybod llawer am Gymru’ ychwaith.

 

‘Mae Cymru wedi gwneud cyfraniad enfawr i’r byd ond ychydig o bobl hyd yn oed yng Nghymru ei hun – sy’n gwybod maint y cyfraniad hwnnw’ ychwanegodd Emrys, ‘A dyna pam ysgrifennais y gyfrol hon. Er mwyn rhoi hyder inni fel cenedl’.

 

Brodor o Leamington Spa

 

Yn genedlaetholwr ac yn weithredwr gwleidyddol, cafodd Emrys Roberts ei eni yn Leamington Spa, Swydd Warwig yn 1931. Dechreuodd ddysgu Cymraeg pan symudodd y teulu i Gaerdydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cafodd radd ag anrhydedd mewn Hanes yn y flwyddyn y bu’n Llywydd Undeb Myfyrwyr yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, ac mae wedi darlithio ar Hanes Cymru a’r Unol Daleithiau yn Adran Allanol y Coleg. 

 

Bu’n Ddirprwy Lywydd ar Blaid Cymru yn ystod diwedd y 70au. Cafodd ei ddanfon i garchar Caerdydd ym 1952 am wrthod ymuno a’r lluoedd arfog Brydeinig wedi i aelodau seneddol Cymru bleidleisio yn erbyn gorfodoaeth filwrol mewn adeg o heddwch ac fe’i roddwyd yn y celloedd o dan San Steffan am ymyrryd mewn dadl o’r oriel gyhoeddus.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru