Dathlu gyda Rhywbeth i Bawb yr hydref hwn

Mae mis Tachwedd 2012 yn garreg filltir bwysig yn hanes darlledu yn yr iaith Gymraeg wrth i S4C ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed.

Yn flaenllaw yn yr amserlen yr hydref hwn mae rhaglenni i ddathlu'r achlysur. Byddwn yn edrych yn ôl ar hanes y Sianel ac yn hel atgofion am hoff raglenni'r degawdau.

Un o’r rhaglenni yw drama ddogfen am benderfyniad yr arweinydd gwleidyddol a’r cenedlaetholwr Gwynfor Evans i fygwth ymprydio hyd farwolaeth yn yr ymgyrch dros sianel Gymraeg.

Mae Gwynfor, a ysgrifennwyd gan yr Archdderwydd T James Jones, yn ail-greu blwyddyn dyngedfennol ym mywyd Gwynfor Evans, gyda'r actor Aneirin Hughes yn portreadu Gwynfor.

Ym mis Medi 1979, fe wnaeth Llywodraeth Geidwadol newydd Margaret Thatcher dro bedol trwy gyhoeddi na fyddant yn sefydlu sianel deledu Gymraeg er gwaethaf addewid i wneud hynny yn eu maniffesto.

Arweiniodd hyn at benderfyniad Gwynfor Evans i gyhoeddi ympryd hyd farwolaeth ac o fewn 12 mis, roedd y Llywodraeth wedi cyhoeddi tro pedol arall ac wedi penderfynu sefydlu gwasanaeth teledu S4C.

Meddai’r cynhyrchydd Lona Llewelyn Davies, “Mae’n bortread cynnes, sensitif o ddyn dewr a wnaeth benderfyniad ysgytwol a allai fod wedi arwain at ei farwolaeth. Mae’r ddrama ddogfen wedi seilio’n gadarn ar hanes ond mae hefyd yn caniatáu i ddychymyg yr awdur T James Jones dwrio i psyche Gwynfor Evans ar y pryd.”

Ymhlith y rhai sy’n cymryd rhan mae aelodau amlwg o Blaid Cymru ar y pryd, yr Arglwydd Dafydd Wigley a Peter Hughes Griffiths, y sylwebydd cyfryngau, Euryn Ogwen, cyn brif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Emyr Jenkins, mab Gwynfor Evans, Guto Prys ap Gwynfor, ei ferch Meinir Ffransis, a’i gwr hithau, yr ymgyrchydd iaith blaenllaw Ffred Ffransis.

Mae'r sioe S4C yn 30 yn rhaglen arall sy'n gasgliad o atgofion y gwylwyr a chlipiau o'r archif sy’n cael ei chyflwyno gan Siân Thomas, un o gyflwynwyr y noson gyntaf yn 1982.

Bydd Plant y Sianel hefyd yn dychwelyd gyda rhaglen arbennig yn rhoi hanes cenhedlaeth o Gymry gafodd eu geni 30 mlynedd yn ôl, yr un pryd ag S4C.

Dywedodd Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, "Dwi'n hynod falch o gael cyhoeddi ein hamserlen ar gyfer yr hydref. Mae'n gyfnod pwysig yn hanes y Sianel wrth iddi ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed ac mae'n addas felly bod rhaglenni i ddathlu yn flaenllaw yn yr amserlen.

"Dyheadau’r gwylwyr sydd bwysicaf wrth ystyried cynnwys ein gwasanaeth o ddydd i ddydd, o fis i fis ac o flwyddyn i flwyddyn. Mae addasu ein gwasanaeth a'n rhaglenni mewn ymateb i ddymuniadau ein gwylwyr yn broses barhaol ac mae'r amserlen sy'n cael ei chyhoeddi heddiw yn rhan o'r broses honno wrth i ni ymdrechu i gynnig rhywbeth i bawb."

Drama

Mae Alys yn ei hôl. A bydd y ferch ddigyfaddawd, wnaeth osod sialens i'r gynulleidfa yng nghyfres gyntaf drama feiddgar Siwan Jones, yn ein herio unwaith eto.

Dyw hapusrwydd, sicrwydd a bodlonrwydd ddim yn eistedd yn hawdd yng nghol Alys, sy’n cael ei chwarae gan Sara Gregory. Mae bywyd yr un mor gymhleth ag erioed i’r fam sengl hon wrth iddi geisio sicrhau bywyd gwell i’w mab, Daniel.

Daw sawl cymeriad newydd i’w bywyd. Mae Phil newydd gael ei ryddhau o’r carchar, ac mae’n cael ei chwarae gan Gareth Jewell (Baker Boys, The Indian Doctor). Gwerthwr a datblygwr tai yw Simon sy’n cael ei chwarae gan Richard Harrington (Pen Talar, Bleak House, Lark Rise to Candleford). Mae Alys hefyd wedi symud o’i fflat siabi i dy cyngor. Mae bywyd i’w weld ar i fyny iddi.

“Unwaith eto, mae’r awdur Siwan Jones yn arbrofi yn y gyfres hon,” meddai cynhyrchydd Alys, Paul Jones. “Aeth y gyfres gyntaf ati’n raddol i ddadorchuddio’r haenau gwahanol sy’n bodoli oddi fewn ein cymdeithas. Mae’r ail gyfres hon yn fwy o thriller, gydag elfen iasoer gref yn perthyn iddi. Mi fydd y gynulleidfa yn sicr yn anesmwytho wrth ei gwylio.”

Mae cyfrinachau tywyll yn codi i'r wyneb yn Pobol y Cwm sy'n esbonio'r tensiwn ym mherthynas Gethin gyda'i dad Moc, ond a oes gwirionedd yn y cyhuddiadau? Hefyd, ar enedigaeth babi Ffion, oes unrhyw un rhywfaint callach pwy yw'r tad, gan gynnwys y fam ei hun? Mae Jinx yn llawn balchder ac yn ysu am gadarnhad mai ef yw tad y babi wrth i Gaynor fynnu prawf DNA i glirio enw Hywel unwaith ac am byth. Ond a oes trydydd ymgeisydd am y teitl?

Mae hwyl i'w gael ar y rownd bapur yng nghwmni criw ifanc Rownd a Rownd, ond dydi helynt byth ymhell. Cawn ddod i adnabod ambell wyneb newydd rhwng nawr a diwedd y flwyddyn, gydag ambell un yn dod â phroblemau newydd gan godi cwestiynau am amryw o bynciau, yn cynnwys maethu plant, teulu digartref a chymhlethdod affers.

Adloniant

Bydd dwy gyfres adloniant yn cyflwyno dwy frwydr wahanol i ni'r hydref hwn. Y cyntaf yw Fferm Ffactor sydd unwaith eto'n rhoi ffermwyr Cymru drwy eu pethau mewn ymgais i ddod o hyd i ffermwr gorau'r wlad.

Mae'r ail frwydr yn y gegin, wrth i'r gyfres newydd Brwydr y Fwydlen osod her i gogyddion amatur. Ym mhob rhaglen bydd tri chogydd amatur yn cystadlu am y gorau gyda'r ornest wedi ei lleoli mewn bwyty lleol penigamp. Bydd y rhaglen yn ymweld ag ardal a bwyty gwahanol bob wythnos ble bydd y cystadleuwyr yn gorfod plesio'r prif gogydd gyda'r wobr yn cynnwys lle i'w pryd nhw ar fwydlen y bwyty.

Mae traddodiad y Noson Lawen yn parhau i ffynnu gyda chyfres newydd o raglenni yn gymysgedd difyr o’r hen a’r newydd, gydag arweinwyr profiadol a rhai newydd i’r Noson Lawen fel Ifan Jones Evans, Elen Pencwm, Sam Jones, ac Aeron a Wil. Cawn nosweithiau arbennig hefyd, yn cynnwys noson i ddathlu pen-blwydd yr Urdd yn 90 oed.

Bydd digonedd o hwyl i’w gael yng nghwmni’r comedïwr poblogaidd o Ynys Môn gyda chyfres newydd o Sioe Tudur Owen. Ymysg y gwesteion fydd yn swatio ar soffa Tudur mae Caryl Parry Jones, Owain Arthur, Sharon Morgan a John Ogwen. Bydd cyfle i aelodau o’r gynulleidfa gymryd rhan yn y cwis Iawn Mêt? gyda’r cyfle i ennill £1,000 o bunnau. A phwy fydd y Seren Wib fydd yn cadw cwmni i Tudur ar y llwyfan bob wythnos?

Mae unigryw yn ansoddair addas i ddisgrifio’r gyfres gylchgrawn Y Lle. Mae’n wahanol, mae’n fywiog, yn gymysgedd o gerddoriaeth a gwallgofrwydd. Dyma’r lle i chi fod os oes gennych chi ddiddordeb mewn ffilmiau, ffasiwn, cerddoriaeth, digwyddiadau, bandiau, a gigs. Griff Lynch a Leni Hatcher sy’n ceisio cadw trefn ar bethau. Ydyn nhw’n llwyddo? Wel, nid bob amser efallai...

Mae'r gyfres 3 Lle yn dychwelyd, ble bydd rhagor o wynebau cyfarwydd yn ein tywys i rhai o'u hoff lefydd, gan rannu straeon am eu profiadau a datgelu mwy am eu personoliaethau.

Mwynhewch y diweddaraf o'r celfyddydau yng Nghymru gyda Nia Roberts a Rhun ap Iorwerth yn Pethe. Ac ymunwch â thîm Heno bob nos Lun i Wener ar gyfer y straeon diweddara' o'n cymunedau wrth i'r gohebwyr deithio ledled Cymru, ynghyd â gwesteion difyr yn y stiwdio. Mae Prynhawn Da hefyd yn trafod pynciau o bob math gyda gwesteion a chyfranwyr amrywiol hefyd.

Mae Hwb yn cynnig cymorth ac anogaeth i ddysgu Cymraeg gyda rhaglen o eitemau, sgetsys a chyfweliadau bob prynhawn Sul a deunydd ychwanegol ar-lein. Yn ymuno â Matt Johnson i gyflwyno mae Siân Jones, tra bod Nia Parry ar gyfnod mamolaeth.

Comedi

Mae’r ddrama gomedi Gwlad yr Astra Gwyn, a fu’n rhan o gyfresi cynnar Ddoe am Ddeg, nawr yn mentro ar ei liwt ei hun. Ymunwch â Trefor, dyn tacsi diniweitiaf Cymru, wrth iddo yrru’i gwsmeriaid gwyllt o un man i’r llall yn ei Astra bach gwyn.

Mae Ddoe am Ddeg hefyd yn ôl ym mis Tachwedd. Ac yn hytrach na chyflwyno o'r stiwdio bydd Lisa Angharad ac Emyr Prys Davies yn crwydro Cymru i gyflwyno sgestsus, spwffs a hiwmor lloerig ac yn cyfarfod cymeriadau newydd fel Glyn Ffidich a Merfyn Wyn y DJ, yn ogystal â hen ffrindiau fel Sarjant Puw.

Ac unwaith eto bydd y gyfres gomedi Dim Byd yn dwyn rheolaeth ar eich teledu, yn mynd â chi ar daith o sianel i sianel ac o un spwff o raglen i un arall.

Ffeithiol

Ymhlith rhaglenni dogfen y sianel yn ystod yr hydref bydd straeon dirdynnol am blant arbennig, am rai o arwyr rhyfeloedd cyfoes Irac ac Afghanistan a’r Ail Ryfel Byd ac am fusnes preifat iawn - y busnes angladdau.

Yn y gyfres O’r Galon, cawn hanes dwy chwaer ifanc o’r Bryn ger Llanelli, Catherine a Kirstie Field, yr unig ddau berson yn y byd sy’n dioddef o gyflwr niwrolegol sydd wedi eu parlysu a dwyn eu gallu i siarad. Yn y gyfres hefyd bydd rhaglen am ddynion sy’n cael eu cam-drin gan wragedd a rhaglen Adar Brith am waith John Islwyn Jones, sy’n rhedeg Canolfan Hebogiaid ym Metws Gwerful Goch.

Bydd saith rhaglen y gyfres Lleisiau’r Ail Ryfel Byd yn canolbwyntio ar bob blwyddyn y rhyfel o 1939 i 1945 a hanes rhyfeloedd mwy cyfoes Irac ac Afghanistan geir yn Coffau’r Cymry.

Byd preifat iawn, fel arfer, yw byd angladdau teuluol ond yn y gyfres Traed Lan, cawn fynd tu ôl i’r llenni i ddarganfod rhai o ddirgelion y diwydiant. Olrhain hanes Iddewes fonheddig a chyfoethog o’r 18fed ganrif sydd wedi ei chladdu ym mynwent eglwys Llandysul trwy ymdrechion perthynas iddi, yr actor a dynwaredwr, Andrew Jones, fydd y rhaglen Iddewes Llandysul yn y gyfres Gwreiddiau. Mewn rhaglen arall yn y gyfres, Mil o Flynyddoedd Maesglasau, cawn hanes teulu unigryw sydd wedi ffermio tir mynyddig Ty’n y Braich, Dinas Mawddwy, ers mil o flynyddoedd.

Yn dilyn Bois y Caca, a ddarlledwyd yn ddiweddar, bydd Bois y Bins a Bois y Ffair yn mynd â ni i fyd trin sbwriel ac i fyd cwbl wahanol – byd y ffair a theulu’r Studts – un o deuluoedd mwyaf amlwg y diwydiant ffeiriau yng Nghymru.

Rhaglenni dipyn ysgafnach yw Mr Mysls, hanes Mark Humphreys, y codwr pwysau o Amlwch, Sir Fôn, 12 Cyw Iâr, Ffrwythau, Llysiau a Phrotein Shakes, stori Beth Workman o Gaerdydd, wrth iddi deithio i gystadlu ym Mhencampwriaeth Ryngwladol Corfflunio ym Madrid a Tân Gwyllt, rhaglen fydd yn plethu hanes tân gwyllt yng Nghymru gyda hanes tân gwyllt ar draws y byd.

Bydd Y Glas yn datgelu mwy am waith Heddlu De Cymru yn ardal Abertawe, Ambiwlans Awyr Cymru yn dilyn gwaith peilotiaid a pharafeddygon y gwasanaeth hanfodol, ac Ysbyty Gwynedd yn rhoi cipolwg o waith ysbyty prysur sy’n gwasanaethu cleifion De Orllewin Cymru. Mewn cyfres arall o Ar Lafar, bydd Ifor ap Glyn yn cloddio ymhellach i hanes a natur unigryw tafodiaethau Cymru.

Mae rhaglenni materion cyfoes S4C gyda'u bys ar y p?ls yn holi'r cwestiynau anodd ac yn mynnu'r atebion am y pynciau sy'n bwysig i chi. Dilynwch y cyfan o wleidyddiaeth i'r newyddion ac ymchwiliadau arbennig gyda CF99, Y Byd ar Bedwar, Taro Naw, Hacio a Pawb a'i Farn.

Am y newyddion diweddaraf yn y diwydiant amaeth a bwrlwm digwyddiadau gwledig, gwyliwch Ffermio bob nos Lun. Ac i ddilyn pob rhaglen bydd bwletin Tywydd arbennig yn rhoi'r rhagolygon am yr wythnos i ddod.

Un arall fydd yn ein tywys i berfeddion y wlad yw Dai Jones, Llanilar gyda chyfres newydd o'r hen ffefryn Cefn Gwlad a chawn fwynhau rhaglen o fwrlwm Y Ffair Aeaf yn Llanelwedd. A bydd cyfle i fwynhau rhagor o'r hiwmor a'r dalent sy'n ffynnu yn ein hardaloedd gwledig gyda rhaglen arbennig o Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc.

Cerddoriaeth

Bydd Aled Jones: Fy Nhaith Glasurol yn mynd â ni ar daith sy’n ymchwilio i ysbrydoliaeth gerddorol gan gynnwys ymweliad â Hambwrg a Fienna, yna Sydney, Melbourne, Norwy, Ffindir a Lloegr.

Rhys Meirion, Luned Aaron ac Alwyn Humphreys fydd yn ein tywys i fannau crefyddol a sanctaidd yn ystod y gyfres newydd o Dechrau Canu Dechrau Canmol a Theatr y Stiwt, Rhosllannerchrugog fydd lleoliad cystadleuaeth Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel eleni. Bydd y camerâu yno i ddod â’r noson bwysig hon i’ch cartrefi.

Digwyddiad cenedlaethol arall o bwys yw’r Wyl Cerdd Dant. Venue Cymru, Llandudno yw lleoliad yr wyl eleni, ac mae trigolion sir Conwy wedi bod yn paratoi yn frwd ar ei chyfer. Cawn fwynhau cyffro a brwdfrydedd y cystadlu wrth i rai o gantorion a cherddorion gorau Cymru ddod at ei gilydd i ddathlu traddodiad unigryw.

Chwaraeon

Rhowch eich gwregys ymlaen am fwy o gyffro'r byd chwaraeon modur wrth i dîm Ralïo+ gyflwyno uchafbwyntiau cynhwysfawr o Rali Cymru GB. Ymunwch â Lowri Morgan, Emyr Penlan, Howard Davies ac Wyn Gruffydd bob nos rhwng Medi 13 a 16 wrth iddyn nhw ddilyn adrenalin a thensiwn cymal Cymru o Bencampwriaeth Rali’r Byd (WRC).

Bob dydd Sadwrn bydd S4C yn darlledu’r gorau o chwaraeon yng Nghymru gyda phêl-droed yn fyw o Uwch Gynghrair Corbett Sports Cymru yn Sgorio (3.00pm) a Chynghrair RaboDirect PRO12 gyda chriw Y Clwb Rygbi (6.00pm).

Yn ystod gemau byw Sgorio ar brynhawn Sadwrn, bydd y Sgoriadur yn trosglwyddo cyffro’r prynhawn ar feysydd chwarae Cymru a Lloegr gyda chanlyniadau munud wrth funud ar y sgrin.

Bob nos Lun mae cyfle i fwynhau uchafbwyntiau cynghrair La Liga yn Sbaen, gemau cartref Wrecsam a Chasnewydd yng nghyngres y Blue Square a’r gorau o weddill gemau Uwch Gynghrair Cymru.

Bydd gemau byw’r Cwpan LV a Chwpan Amlin hefyd yn rhan o arlwy rygbi’r Sianel yn osytal ag uchafbwyntiau gemau'r Cwpan Heineken. Bydd ffans hefyd yn gallu dilyn y garfan genedlaethol yn fyw yn ystod cyfres yr hydref pan fydd Cymru’n herio’r Ariannin, Samoa, Seland Newydd ac Awstralia.

Gwyliwch sêr ifanc gêm y bêl hirgron yn y cystadlu wrth i gemau Rygbi'r Coleg gael eu darlledu'n fyw ar y we yn y prynhawn, ac eto ar deledu gyda'r nos.

Ym mis Hydref cewch fwynhau holl ddrama Marathon Eryri fydd yn profi stamina, cryfder a chyflymder y rhedwyr ar hyd y cwrs 26.2 milltir.

Fe fydd rhai o ffigyrau amlycaf y byd chwaraeon yng Nghymru hefyd yn ennyn sylw ar y Sianel yn ystod yr hydref.

Gyda Jonathan Davies ar fin dathlu ei ben-blwydd yn hanner cant, mae’n ymgymryd â thaith beicio yn Unol Daleithiau America er budd elusen Ysbyty Felindre, a bydd y rhaglen Jonathan yn 50 yn ei ddilyn pob cam. Bydd y siwrne yn gyfle i’r seren rygbi o Drimsaran edrych nôl ar ei fywyd – collodd ei dad pan yn ifanc, bu'n rhaid iddo frwydro i gyrraedd y brig yn y byd rygbi cyn sefydlu ei hun fel un o sylwebwyr rygbi mwyaf poblogaidd Prydain.

Yn hwyrach eleni, cawn bortread dadlennol o Gary Speed gan ei ffrind agos, cyn flaenwr Cymru, John Hartson. Bydd yn bwrw goleuni o’r newydd ar fywyd a gyrfa aruthrol rheolwr a chyn capten Cymru. Bydd yn gyfle i edrych ar ei gyfraniad i bêl-droed, Cymru a’r byd o safbwynt unigryw John Hartson. Y ffilm ddogfen hon fydd y portread teledu manwl cyntaf ohono i’w gael ei ddarlledu gyda chydweithrediad llawn y teulu.

Hefyd, yn dilyn ei lwyddiant yn Ngemau Paralympaidd Llundain, bydd rhaglen arbennig am yr athletwr Aled Davies o Ben-y-bont ar Ogwr a gipiodd fedal aur am daflu disgen.

Plant

Am y tro cyntaf ym myd darlledu plant ym Mhrydain, bydd modd i bobl ifanc wylio cyfres gwis ar deledu ond hefyd chwarae’r gemau ar y cyd ar ail sgrin yn eu cartrefi.

Y Lifft yw enw'r rhaglen arloesol a bydd y gwylwyr yn cael eu hannog i chwarae adre’ ar yr un pryd â’r cystadleuwyr yn y stiwdio i ddatrys saith pos yn erbyn y cloc drwy fynd i’r wefan – www.ylifft.com – neu lawrlwytho’r ap sydd ar gael ar ddyfeisiau ffôn neu dabled.

Mae Y Lifft yn rhan o arlwy Stwnsh, rhaglenni amrywiol i wylwyr ifanc bob prynhawn Llun i Gwener a bore Sadwrn. Mae cyfresi cyffrous eraill yn cynnwys taith yn ôl mewn hanes gyda'r Ditectifs Hanes, trawsnewid ystafelloedd gwely yn Hip neu Sgip, a Tîm Talent yn crwydro'r wlad yn helpu i roi sglein ar gynyrchiadau lleol – o sioeau ysgol i raglen radio ysgol.

Mae Cyw hefyd wedi cymryd camau cyffrous wrth ehangu i ddarpariaeth ail sgrin. Ar 1 Medi fe ddechreuodd y gwasanaeth newydd @TifiaCyw sy'n croesawu rhieni di-Gymraeg i fwynhau rhaglenni Cyw a dysgu Cymraeg wrth wylio gyda'u plant. Drwy ddefnyddio ffôn, cyfrifiadur neu dabled, mae'r cyfrif Twitter, tudalen Facebook a gwefan Cyw yn darparu geirfa ac esboniadau am beth sy'n digwydd ar y sgrin.

 

Os oes gyda chi newyddion am eich menter, prosiect, busnes, sefydliad neu rywbeth unigol, danfonwch at post@lleol.net ac fe wnawn roi'r neges ar led.