Dathlu'r gorau o'r diwydiant twristiaeth

22/11/2017

Categori: Arian a Busnes, Hamdden, Newyddion

Mae Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2018 bellach yn chwilio am enwebiadau ymhlith y diwydiant ymwelwyr yng Nghymru.

Cynhelir y gwobrau gan Croeso Cymru i ddathlu'r gorau o ddiwydiant twristiaeth Cymru - gan arddangos busnesau twristiaeth Cymru a llwyddiannau'r diwydiant. 

 

Cynhelir y seremoni wobrwyo ddydd Iau, 8 Mawrth 2018 yng Ngwesty'r Celtic Manor, Casnewydd a gwahoddir enwebiadau yn awr ar gyfer amryw o gategorïau.

 

Mae categorïau’r gwobrau ym amrywio o’r gwesty gorau i’r lle gorau i fwyta, gan gynnwys gwobrwyo person ifanc y flwyddyn. 

 

Bydd enillwyr y gwobrau rhanbarthol yn cystadlu yn y Gwobrau Cenedlaethol ym mis Mawrth.  Roedd y Gweinidog Twristiaeth, Dafydd Elis Thomas, yn bresennol yn Ngwobrau Twristiaeth Gogledd Cymru wythnos diwethaf, lle y cyhoeddwyd rhai o’r enillwyr rhanbarthol cyntaf a fydd yn cystadlu ar gyfer y Gwobrau Cenedlaethol.  

 

Wrth sôn am y gwobrau, dywedodd y Gweinidog Twristiaeth: “Bu Gwobrau Twristiaeth Gogledd Cymru yn llwyddiant ysgubol ac mae’n wych gweld yr enillwyr yn awr yn cystadlu yng Ngwobrau Cymru. Rwy’n annog pob busnes twristiaeth ar draws gweddill Cymru i enwebu eu hunain ar gyfer y gwobrau hyn; mae’r ymdrech o gystadlu am wobrau yn gallu bod yn hynod o werth chweil, yn enwedig i godi morâl y tîm a’r staff. Wrth gwrs, mae dweud mai chi yw’r ‘gorau yng Nghymru’ hefyd yn gallu rhoi hwb i’ch busnes o safbwynt marchnata.

 

“Mae ansawdd yr hyn sydd i’w gynnig gan y diwydiant twristiaeth yng Nghymru yn mynd o nerth i nerth, ac mae’r Gwobrau yn gyfle i bawb ddathlu llwyddiannau’r diwydiant ac arddangos ansawdd rhagorol ein sector twristiaeth bywiog.

 

“Dyma ein cyfle i roi amlygrwydd i’r diwydiant twristiaeth a thalu teyrnged i’r sawl sy’n ymroddedig ac yn angerddol ynghylch eu busnesau, twristiaeth a Chymru.”

 

Yn siarad yr wythnos diwethaf yng Ngwobrau Twristiaeth Gogledd Cymru, dywedodd y Cyfarwyddwr Reolwr, Jim Jones fod ansawdd yr ymgeiswyr eleni yn tanlinellu pam bod y rhanbarth yn cael eu gydnabod fwyfwy fel lleoliad o safon byd ac sy'n cynhyrchu £2.8 biliwn bob blwyddyn ac yn cyflogi tua 40,000 o bobl.

 

Pawb yn enillwyr

 

Dywedodd: "Mae’r gwobrau wedi bod yn llwyddiannus iawn a hoffwn longyfarch yr enillwyr. Fodd bynnag, yn fy llygaid i mae pob un a enwebwyd yn enillydd ac mae pob un wedi chwarae rhan i wneud eleni  yn flwyddyn lwyddiannus ar gyfer Twristiaeth Gogledd Cymru.

 

"Mae'r digwyddiad hwn yn arddangos y gorau o ogledd Cymru ac rydym wedi gweld cymaint o enwebiadau anhygoel. Bydd nifer o’r enillwyr bellach yn mynd ymlaen i gynrychioli Gogledd Cymru yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Croeso Cymru yn 2018 a dymunaf bob llwyddiant iddynt."

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru