Pwy yw'r Bolycs Cymraeg?

11/09/2017

Categori: Hamdden

Mae Bolycs Cymraeg yn dringo allan o’r byd rhithiol yr wythnos hon i gyhoeddi ar brint gasgliad o drydaron bachog a deifiol gan yr awdur anhysbys, ond yr hyn sy’n pigo’r Genedl yw pwy yn union yw’r Bolycs?

Mae yna son mai gyrrwr lori o groesoswallt yw’r awdur dirgel, tra fod eraill yn credu fod Bolycs Cymraeg wedi’i greu fel enaid arallfydol o niwloedd a llynnoedd Eryri. Yn ôl Gwasg Gomer, mae un peth yn sicr na enillodd yr awdur wobr Goffa Daniel Owen yn 1980 ac 1985.

 

I ymuno yn yr hwyl a’r chwilfrydedd, y mae Lleol.cymru am roi’r bleidlais i’r genedl fel ydan ni’n gwneud y dyddiau hyn bob munud, galwch o’n refferendwm, i holi pwy yw’r Bolycs. Y mae yna ambell enw adnabyddus wedi dod i’r fei ar y rhestr fer megis y ffermwr enwog Dai Jones, Llanilar neu’r Ysgrifennydd Gwladol, Alun Cairns. Ewch ati i fwrw eich pleidlais, ac fe fydd hyn y peth pwysicaf yr ydych yn ei wneud yr wythnos hon, dwi’n gaddo! Fe rydym hefyd wedi dethol rhai o drydaron cofiadwy'r Bolycs yn ddiweddar, fel welir rhain isod. 

 

Pwy yw'r Bolycs Cymraeg?

  • A.
    Dai Jones, Llanilar
  • B.
    Margaret Williams
  • C.
    John ac Alun
  • D.
    Elinor Jones
  • E.
    Hillary Clinton
  • F.
    Does gen i ddim ots pwy ydi o neu hi!
  • G.
    Alun Cairns

(Mae'r arolwg barn yma wedi cau)

A
11%

B
6%

C
3%

D
6%

E
6%

F
11%

G
57%
 

 

Rhai o uchafbwyntiau diweddar Bolycs Cymraeg: