Sylwadau cadeirydd siop Trago Mills yn cynddeiriogi

Mae mudiad iaith wedi beirniadu Trago Mills yn hallt, wedi i gopi o lythyr oddi wrth y cwmni am ei siop newydd ym Merthyr, sy’n llawn sylwadau gwrth-Gymraeg, ddod i'r amlwg.

Mewn llythyr at swyddfa Comisiynydd y Gymraeg am ddarpariaeth Gymraeg yn y siop newydd, dywedodd Cadeirydd Trago Mills, Mr Robertson:   “... ers prynu ein safle cyntaf ym Mhentrebach ddiwedd yr wythdegau, yn yr holl amser hynny [rwyf] wedi ystyried mai’r Saesneg yw dewis iaith pobl leol. Pwyleg, Portiwgieg neu o bosib rhywbeth pellach i'r De eto yw’r ieithoedd eraill a glywir gan amlaf.    

“Mae gen i amheuon hefyd ynghylch yr her i'r gyfundrefn addysg a geir drwy addysgu iaith arall, yn enwedig o ystyried safonau llythrennedd presennol, yr wythnos diwethaf cafodd ‘furniture’ ei sillafu gan weithiwr fel ‘fernicher’: maddeuwch fy anwybodaeth ond o hyn y deallaf dyna yw’r sillafiad cywir ... yn Gymraeg!”   

“Ni wnaf eich trafferthu wrth ddadlau ynghylch buddion economaidd o fanteisio ar ein rhodd, bron â bod oddi wrth Dduw, o siarad iaith fwyaf dominyddol y byd ... Digon yw dweud, fel cenedl ar drothwy Brexit [...] ei bod [y Saesneg] yn ased na ddylid ei thanbrisio na thanamcangyfrif ei gwerth, ond ei thrysori a manteisio arni lle bynnag sy’n bosibl: safwn gyda’n gilydd ayyb, ayyb....” 

 

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mae yna ymrwymiad yn y llythyr i osod rhai arwyddion dwyieithog ar safle'r siop newydd ym Merthyr Tudful, ar hyn o bryd, arwyddion uniaith Saesneg sydd yn y siop.  

 

Sarhaus

 

Dywedodd Wyn Williams, Cadeirydd Rhanbarth Morgannwg-Gwent Cymdeithas yr Iaith: “Mae sylwadau gwrth-Gymraeg y cwmni’n rhai sarhaus iawn. Maen nhw'n dangos amarch tuag at y wlad y maen nhw'n masnachu ynddi â thuag at ein hiaith genedlaethol unigryw. Mae'r sylwadau hefyd yn dangos agweddau ymerodraethol a ddylai fod wedi'u claddu amser maith yn ôl. Mae eu safbwynt am addysg yn hollol anwybodus – mae arbenigwyr yn glir bod addysg cyfrwng Cymraeg yn arwain at ruglder yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae degau o filoedd o siaradwyr Cymraeg yn yr ardal mae’r siop yn ei gwasanaethu, ac mae’n sarhaus iddyn nhw.  

 

“Ond yn fwy na dim, mae hyn yn dangos unwaith eto bod angen deddfwriaeth gref er mwyn sicrhau defnydd o’r Gymraeg yn y sector preifat. Welwn ni ddim ffyniant i'r iaith yn y sector preifat os ydyn ni’n dibynnu ar ‘ewyllys da’ cwmnïau fel hyn. Yn wir, mae cynlluniau Llywodraeth Llafur Cymru i wanhau’r ddeddfwriaeth iaith yn fêl ar fysedd busnesau gwrth-Gymraeg. Mae’n flin gennym orfod dweud, ond, ar hyn o bryd, ein Llywodraeth ni yw cyfaill gorau y cwmnïau mawrion hyn.”