Trip cwch poblogaidd yn dychwelyd i arfordir Penfro
Categori: Amgylchedd, Hamdden, Newyddion

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi trefnu Trip Cwch Blwyddyn y Môr arall yn dilyn poblogrwydd a llwyddiant y daith gyntaf.
Bydd y trip, a fydd yn digwydd rhwng 11am-3pm ar ddydd Mawrth 17 Gorffennaf, yn cynnig cyfle i weld Arfordir Penfro o’r môr ac i ddysgu mwy am fywyd gwyllt y môr a threftadaeth forwrol yr ardal.
Mae Awdurdod y Parc wedi ymuno â chwmni Dale Sailing i drefnu’r daith arbennig hon a fydd yn teithio drwy Aberdaugleddau cyn mynd allan i’r môr.
Gwirfoddolwyr ymroddedig y Parc sydd â gwybodaeth fanwl am Arfordir Penfro a’i rinweddau arbennig fydd yn arwain y trip cwch hwn.
Roedd yr adborth gan y rhai a ymunodd â'r fordaith gyntaf ym mis Mehefin yn cynnwys y canlynol: "Roedd y digwyddiad cyfan yn hollol wych. Roedd y tri arweinydd yn cyfrannu at eu gwybodaeth arbenigol amrywiol o natur, hanes a datblygiadau cyfredol.
"Ni allwn onest feddwl am unrhyw beth a fyddai wedi gwella ein diwrnod."
Mae’r tocynnau’n costio £30 y person a bydd y cwch yn gadael Cei Mecryll Marina Aberdaugleddau. Bydd angen i chi ddod â bocs bwyd, diodydd, dillad cynnes a dillad glaw gyda chi. Efallai y byddwch am ddod â chamera a binocwlars hefyd. Mae toiled ar gael ar y cwch.
Mae’n rhaid i chi archebu lle. I archebu lle ffoniwch 01437 720392.
Dyddiad wrth gefn
Mae’r Awdurdod hefyd wedi cyhoeddi y bydd dydd Mercher 18 Gorffennaf yn ddyddiad wrth gefn os bydd y tywydd yn rhwystro’r hwylio ar 17 Gorffennaf. Mae angen i chi fod ar gael ar gyfer y ddau ddyddiad hyn. Os bydd y tywydd yn ein rhwystro rhag hwylio ar y ddau ddiwrnod, byddwch yn cael ad-daliad llawn.
I gael rhagor o wybodaeth am weithgareddau a digwyddiadau ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ewch i'r wefan.