Ar y Ffordd i Llanelli.....Eisteddfod Genedlaethol 2014

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn agor y drysau i’r cyhoedd yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin wythnos nesa ond mae safle'r maes wedi bod yn prysuro ers amser nawr. Mae’n dasg anferth i gael y safle yn barod pob blwyddyn ac mae’r maes fel arfer tua 35 acer mewn maint ac yn gartref i’r pafiliwn pinc a hyd at 300 o stondinau. 

 

Dros y diwrnodau diwethaf mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn llawn negeseuon wrth y rhai sydd yn paratoi ar gyfer yr wythnos, pawb yn brysur yn cyrraedd Llanelli. 


Dros yr Eisteddfod fyddwn yn casglu'r newyddion diweddara o’r cyfryngau cymdeithasol felly dewch 'nôl yn ystod yr wythnos. 


Darllenwch ymlaen am gipolwg o’r maes hyd yn hyn: