Heddiw'n esgus i wledda ar grempogau

05/03/2019

Categori: Bwyd, Hamdden, Newyddion

Fe roedd heddiw yn ddiwrnod hen anghofio deiet y flwyddyn newydd ac yn esgus i wirioni a gwledda ar grempogau neu bancos o bob math wrth i ni ddathlu dydd Mawrth Crempog.

Dydd Mawrth Ynyd yw'r enw swyddogol am y diwrnod hwn sydd o flaen Dydd Mercher y Lludw, sef y diwrnod olaf cyn dechrau gŵyl y Grawys yn y calendr Cristnogol. 

 

Daw'r tarddiad 'ynyd' o'r gair Lladin initium sef cychwyn, sy'n cyfeirio at agosáu'r Grawys. Fe'i gelwir yn Mardi Gras mewn llawer o wledydd Catholig, sef "Dydd Mawrth Tew", gan mai'r arfer oedd gwleddfa cyn dechrau ymprydio o fewn deugain diwrnod sy'n rhagflaenu'r Pasg.

 

Campweithiau crempoglyd

 

Efallai nad ydych eisiau wynebu crempog arall tan y flwyddyn nesaf erbyn hyn, ar ôl boliad o grempogau gyda siwgwr a lemwn, triog, nutella……. ond mae Lleol.cymru wedi dethol negeseuon o gampweithiau crempoglyd y dydd ar Trydar. Mwynhewch y darllen,  y danteithion, y fflipio a’r campweithiau.