Cymro o Gaerfyrddin yn chwilio am gariad yn Llundain

29/02/2012

Categori: Ar-lein, Newyddion

Mae Cymro o Gaerfyrddin wedi dod yn celeb ar y rhyngrwyd ar ôl dod o hyd i ffordd unigryw i ddod o hyd i gariad ym mlwyddyn naid.

 

Mae Andrew Thomas, 35 sy'n byw yn Llundain ond fe'i magwyd yng Nghapel Dewi ger Caerfyrddin, wedi meddwl am gynllun ar ôl methu â dod o hyd i gariad yn Llundain.

 

Mae o wedi creu a phostio fideo ar ei wefan yn gofyn i ferched sydd â diddordeb i gwrdd ag ef heddiw yn Farchnad Spitalfields yn Llundain.

 

Yn y fideo mae’n dweud bod ganddo sypreis,

 

Dywedodd wrth wefan Lleol.net

 

"Nid wyf yn dymuno rhoi gormod i ffwrdd, ond fydd unrhyw un sy'n troi i fyny heddiw yn gorfod gwneud rhywbeth,"

 

"Ac ar ddiwedd y dydd, byddaf yn dewis rhywun.”

 

"Mae tua 130 o bobl wedi cadarnhau ar-lein fyddwn yn bendant  yn dod i lawr a gobeithio y byddant yn dod i fyny i siarad â mi oherwydd bydd gennyf rywbeth ar eu cyfer, gadewch i ni ddweud hynny."

 
Dros y diwrnodau diwethaf mi gerdded strydoedd Llundain yn dosbarthu cardiau busnes gyfeirio pobl at ei wefan.



"Rwyf wedi rhoi nhw allan ac mae wedi lledaenu fel tân gwyllt," meddai.

 

"Mae dros 18,000 o hits wedi bod ar YouTube ac mae 'na llawer iawn o bobl wedi cymryd diddordeb ar Twitter a Facebook.

 

"Rwyf hefyd wedi gwneud cyfweliadau gyda Time Out Llundain, Evening Standard, Daily Mail, BBC Radio 5, Radio Wales, yn ogystal â gwneud cyfweliad gyda fy mhapur nol adre'r Carmarthen Journal.

 


Symudodd Mr Thomas i Lundain 13 mlynedd yn ôl i weithio fel ymgynghorydd ffasiwn.

 

Mae bellach yn gweithio fel Cyfarwyddwr Marchnata i un o'r asiantaethau hysbysebu mwyaf Llundain. Dywedodd fod y syniad wedi dod oddi wrth ei anallu i gwrdd â menywod yn Llundain.

 

"Rwy'n gweithio mewn marchnata ac roeddwn i'n meddwl os na alla i farchnata fy hun, yna ni allaf farchnata unrhyw beth," meddai.

 

"Roeddwn i'n meddwl digon oedd digon a pendyrfynais gwneud rhywbeth am y peth.

 


"Mae'n galed yma i gwrdd â phobl a dydw i ddim yn dda iawn yn mynd i fyny at ferched a dechrau siarad.

 

"Yn Llundain pawb yn cadw eu hunain at eu hunan ac mae pobl yn mynd o gwmpas mewn grwpiau.

 

"Hyd yn oed mewn bar ar nos Sadwrn ni fydd pobl yn siarad gyda chi oherwydd eu bod mewn grŵp of ffrindiau.

 

"Nol adref yng Nghaerfyrddin mha bobl yn siarad â'i gilydd a dyna sut mae y Cymry wedi bod bob amser.

 


"Dwi yn colli'r Rose and Crown yng Nghaerfyrddin ar nos Sadwrn, ond bu'n rhaid i mi symud i Lundain i weithio."

 

Gallwch wylio fideo Andrew ar ei wefan, www.andrew29th.com, ac yn dilyn ei chynnydd ar Trydar, @andrew29th.