Adroddiad Donaldson ddim yn mynd yn ddigon pell yn ôl Mudiad Iaith

26/02/2015

Categori: Addysg, Gwleidyddiaeth, Iaith

Adroddiad Donaldson ddim yn mynd yn ddigon pell

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ymateb i adolygiad yr Athro Donaldson o'r cwricwlwm, gan ddweud bod cyfrifoldeb ar y Llywodraeth i weithredu er mwyn sicrhau 'addysg Gymraeg i bawb'.

 

Ym mis Medi 2013, cyhoeddodd yr Athro Sioned Davies adroddiad oedd yn argymell disodli Cymraeg ail Iaith gyda chontinwwm lle byddai pob disgybl yng Nghymru'n derbyn cyfran o'u haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Dywedodd y cyn-athro ac ymgynghorydd addysg Toni Schiavone ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ‘Rydyn ni wedi cael cefnogaeth gref iawn ar lawr gwlad i'n hymgyrch dros addysg Gymraeg i bawb. Ac er bod dyheadau pobl Cymru yn dod drwyddo'n glir yn yr adroddiad, rhaid i'r Llywodraeth gweithredu er mwyn gwireddu'r dyheadau hynny.  Mae bellach dau adroddiad gan arbenigwyr - Yr Athro Donaldson a'r Athro Sioned Davies - yn datgan bod y system bresennol yn methu plant Cymru. Er mwyn cyrraedd nod Donaldson a'r Llywodraeth, mae'n rhaid sefydlu continwwm dysgu iaith ym mhob un ysgol yn lle'r drefn bresennol o ddysgu ail iaith mae'r arbenigwyr wedi ei beirniadu. Golyga hefyd dysgu cyfran o addysg drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob un ysgol. Ydy Llywodraeth Cymru am gymryd y camau hyn sydd eu hangen nawr?

 

"Wrth gwrs, mae’r adroddiad yn cefnogi y dylai bob disgybl barhau i astudio'r Gymraeg nes eu bod yn 16 mlwydd oed. Ond mae angen mynd llawer ymhellach. Yn hyn o beth, mae cynigion Donaldson wedi amlinellu cyfundrefn a all gweddu'n dda gydag argymhellion Sioned Davies.

 

"Wrth ddysgu Cymraeg yng nghyfnod allweddol dau ac ymlaen, mae diffyg dilyniant ac adeiladu ar y gwaith da a wneir yn y Cyfnod Sylfaen. Mae hyn yn gwneud cam â phlant Cymru, ac yn tanseilio'r nod o greu Cymru ddwyieithog.  Wrth sefydlu continwwm dysgu iaith rhaid hefyd sicrhau bod dysgu llythrennedd, rhifedd a chymwyseddau digidol ar draws y cwricwlwm yn digwydd ar gyfer y naill iaith a'r llall ym mhob ysgol yng Nghymru. Yn wir, os yw'r Llywodraeth o ddifrif am godi safonau llythrennedd rhaid iddyn nhw dderbyn y dystiolaeth ryngwladol sy'n dangos bod dwyieithrwydd ynddo ei hun yn arwain at safonau llythrennedd a rhifedd uwch."

 

Ychwanegodd, ‘Yn y bôn, mater o flaenoriaethau yw hi. Tra bod yr adroddiad yn rhoi cryn bwyslais ar integreiddio'r elfen ddigidol ar draws y cwricwlwm, nid yw'n trin y Gymraeg yn yr un modd.  Felly, bydden ni'n rhoi marc 'C' i'r adroddiad ar y cyfan, mae angen mwy o fanylion ynghylch sut y bydd modd ymgorffori argymhellion Sioned Davies o fewn y fframwaith y mae'n ei osod allan. " 

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net