Dirwyon i ymgyrchwyr iaith

01/08/2014

Categori: Iaith, Newyddion

Mae protestio Cymdeithas yr Iaith dros newidiadau polisi yn sgil canlyniadau’r Cyfrifiad wedi dwyn ffrwyth, dyna oedd neges Cadeirydd y mudiad wrth iddo gael ei ddirwyo gan Lys Ynadon Aberystwyth heddiw (10yb, Dydd Gwener, Awst 1af).

 

Ym mis Mai eleni, paentiodd Robin Farrar a Bethan Williams, cadeirydd a chyn-gadeirydd y mudiad iaith, sloganau megis “Addysg Gymraeg i Bawb” ar wal adeilad Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth. Gorchmynnodd yr ynadon i Robin Farrar a Bethan Williams dalu iawndal o £90 yr un, ond ni chodwyd costau arnyn nhw. Dywedodd y ddau na fyddan nhw’n talu.

 

Roedd y brotest yn un o gyfres o brotestiadau yn galw ar y Llywodraeth i ymgorffori 6 phwynt sylfaenol yn ei pholisïau, gan gynnwys addysg Gymraeg i bawb, tegwch ariannol i'r iaith, a threfn gynllunio newydd, er mwyn cryfhau’r Gymraeg.

 

Mewn datganiad polisi ym mis Mehefin eleni, cafwyd newid polisi pan ddywedodd y Prif Weinidog “bod rhaid i’r system gyfredol o addysgu… Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg newid” gan ddatgan ei bod ‘[yn] bwysig bod holl ddisgyblion Cymru – p’un ai ydynt yn mynd i ysgol cyfrwng Cymraeg neu ysgol cyfrwng Saesneg – yn cael cefnogaeth i siarad y Gymraeg yn hyderus”. Mae’r Prif Weinidog hefyd wedi dweud ei fod “[yn] archwilio pob cam ymarferol i gryfhau’r Gymraeg yn y system cynllunio.”  Ymhellach, cyhoeddodd y Llywodraeth y byddai’r Gymraeg ar wyneb ei Fil yn ymwneud â datblygu cynaliadwy.

 

Wrth siarad wedi’r achos llys, dywedodd Robin Farrar: “Rydyn ni ac ymgyrchwyr eraill wedi llwyddo gosod yr agenda o ran sefyllfa’r iaith, ond rhaid dal ati i weithredu. Mae Llywodraeth Carwyn Jones, hyd yn oed, bellach yn cydnabod bod angen diwygio’r drefn gynllunio er budd y Gymraeg, ac bod angen symud tuag at addysg Gymraeg i bawb - dyna ddau o’r chwe pheth roedden ni’n galw amdanynt wrth weithredu yn Aberystwyth. Ond nid yw geiriau Carwyn Jones yn ddigon - mae angen iddo gymryd cyfrifoldeb a gweithredu. Fel ymgyrchwyr, mae dyletswydd arnon ni i ddangos bod gweithredu’n bosib - dyna pam gyhoeddon ni fil cynllunio amgen ein hunain, dyna pam fod ein cefnogwyr heddiw yn llenwi cerdiau post ynglyn ag addysg a chynllunio, a dyna pam dorron ni’r gyfraith a chymryd cyfrifoldeb.”

 

Dywedodd Bethan Williams, un o’r gweithredwyr eraill, bod gweithredu uniongyrchol ond yn rhan o ymgyrch ehangach gan Gymdeithas yr Iaith: “Os oes unrhyw amheuaeth pam, mewn gwlad ddemocrataidd, ein bod ni wedi gweithredu – pam bod nifer o bobl wedi gweithredu yn enw ymgyrch y chwe pheth dros y misoedd diwethaf dyma esboniad. Am fod cyfle i ddylanwadu, cyfle i newid, cyfle i fod yn rhan o ddemocratiaeth… Rydyn ni wedi bod ar hyd llwybr dulliau traddodiadol democratiaeth – wedi llythyru, cyfarfod, ymateb i ymgynghoriadau, wedi achub ar bob cyfle, ond eto mae'r Llywodraeth wedi dal i roi'r Gymraeg i’r naill ochr. Mae'r hyn rydyn ni, a'r niferoedd eraill wedi ei wneud er mwyn cyfrannu at ddemocratiaeth, ac annog trafodaeth.”

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.net