Golwg newydd ar dir afon Teifi

12/01/2018

Categori: Amgylchedd, Celfyddydau, Hamdden, Newyddion

Yr ardal o gwmpas afon Teifi fydd yn mynd â'r sylw yn yr ail bennod o gyfres Cynefin, nos Sul yma. O hanes rhyfeddol eglwys Henllan i ras gwryglau flynyddol Cenarth, cawn gyfle i ddysgu mwy am draddodiadau a llên gwerin un o'n cymunedau gwledig, a hynny drwy lygaid gwybodusion lleol.

Caiff y llon a'r lleddf sylw wrth i Heledd Cynwal, ynghyd â Iestyn Jones a Siôn Tomos Owen, dyrchu i hanes a chwedloniaeth Bro Emlyn. Mae gwersyll carcharorion rhyfel Henllan yn wybyddus i nifer ond efallai nad yw hanes yr eglwys yno mor gyfarwydd i bobl. Adeiladwyd y gwersyll ei hun ar ddechrau pedwardegau'r ganrif ddiwethaf a bu'n gartref i dros 1,000 o Eidalwyr. Ar eu cais hwy, neilltuwyd un cwt iddyn nhw greu eglwys Babyddol, ac fel yr eglura'r hanesydd lleol Jon Meirion Jones, daeth hon yn adeilad pensaernïol godidog.

 

"Wedi cael y cwt, aeth y carcharorion dyfeisgar ati i'w drawsnewid i fod yn adeilad eglwysig gyda dom gogoneddus ag arno ffresco'r Swper Olaf. Mae yno hefyd saith o fedaliynau wedi'u paentio ar bapur ar y trawstiau ynghyd ag un cyffelyb ar fur yng nghefn yr eglwys. Yr hyn sy'n anhygoel yw bod y lliwiau'n parhau'n driw ac yn brydferth a dyna sy'n synnu ymwelwyr ddaw i'w gweld - mae'r modd y mae wedi goroesi yn anhygoel," meddai Jon Meirion Jones.

 

Cwryglau

 

Un o draddodiadau mwyaf unigryw'r ardal fydd yn mynd â bryd Iestyn Jones wrth iddo fentro i gystadlu yn ras gwryglau flynyddol Cenarth. Math o gwch bychan yw'r cwrwgl, wedi ei siapio yn draddodiadol o wiail a chroen anifail. Ei fantais yw ei ysgafnder a gall pysgotwyr ei gario ar eu cefnau ond mae sgil penodol i'w lywio, yn ôl Iestyn.

 

"Beth allai fod yn anodd am rwyfo peth mor fach â hyn? Wel, tipyn a dweud y gwir, fel dwi wedi'i ddarganfod gan ddod yn agos at wlychfa sawl gwaith. Ond mae defnyddio'r cwrwgl i bysgota am y sewin blasus yn yr ardal hon yn draddodiad pwysig. Ac er iddo fod mewn peryg o gael ei golli, mae 'na ymdrech benodol ar droed ar hyn o bryd i sicrhau ei fod yn parhau’n fyw i'r dyfodol," esbonia Iestyn Jones.

 

Ynghyd â Bro Emlyn, yr ardaloedd eraill fydd yn cael sylw dros yr wythnosau nesaf bydd Merthyr Tudful, Dyffryn Clwyd, Ynys Cybi a Gorllewin Môn, Dyffryn Banw, Dyffryn Aman a'r Bala (Bro Tegid).