Canlyniadau Chwilio yn categori Arian a Busnes

Tanysgrifio i RSS

Wedi darganfod 305 cofnodion | Tudalen 30 o 31

Bwyd a diod o Gymru yn arlwy i Amgued...

01/05/2013
Categori: Arian a Busnes, Bwyd

Mae Nerys Howell (Ymgynghoriaeth Bwyd Nerys Howell) wedi ei phenodi i weithio gyda Amgueddfa Cymru i ddatblygu’r arlwy Cymreig ar ei bwydlenni yn eu safleoedd ar draws Cymru. Bydd Nerys yn gweithio gyda Elior,y contractwyr arlwyo, sydd wedi derbyn estyniad o 10 mlynedd i’w cytundeb gan Amgueddfa Cymru gwerth £28m i ddarparu'r arlwyo yn  Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ac yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan.
 
Mae Nerys wedi gweithio eisioes ar nifer o fentrau amlwg gan gynnwys gweithio gyda Chanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd lle bu'n datblygu’r defnydd yno o fwyd  a diod Gwir Flas Cymru. Mae hi hefy ...

darllenwch mwy

Lle’r Fenyw

29/04/2013
Categori: Addysg, Arian a Busnes, Hyfforddiant / Cyrsiau, Newyddion

Lle’r Fenyw


Canfyddiadau allweddol astudiaeth o rolau menywod yng ngweithlu Cymru

Canfyddiadau allweddol astudiaeth o rolau menywod yng ngweithlu Cymru
 
Fel rhan o’n gwaith i gefnogi datblygiad effeithiol menywod yn y gweithlu, rydym wedi comisiynu ein gwaith ymchwil mwyaf sylweddol mewn degawd.
 
Mae’r astudiaeth wedi helpu i nodi’r ffactorau sy’n effeithio ar allu menywod i gael mynediad i’r gweithle, parhau i weithio a symud ymlaen yn eu gyrfa. Mae’r canfyddiadau’n rhoi cyfle i Chwarae Teg, y llywodraeth, diwydiant a’r byd academaidd adolygu arferion cyfredol, datblygu polisïau ac ystyried deddfwriaeth i herio’r rhwystrau hyn er mwyn sicrhau bod menywod yn gallu parhau i ddatblygu a chamu ymlaen ...

darllenwch mwy

Mae Digidol 2013 ar y gweill

11/04/2013
Categori: Addysg, Ar-lein, Arian a Busnes, Hyfforddiant / Cyrsiau

Mae Digidol 2013 ar y gweill


Digidol 2013 ei drefnu gan Lywodraeth Cymru

Byddwch yn dysgu, yn cael eich ysbrydoli ac yn deall eich dyfodol digidol.
 
Caiff Digidol 2013 ei drefnu gan Lywodraeth Cymru a’i gynnal yng Ngwesty moethus y Celtic Manor. Dyma ddigwyddiad digidol all helpu’ch busnes.
 
Cewch wybod beth yw barn arweinwyr y diwydiant am bynciau llosg fel cyfathrebu â’ch cwsmeriaid, technoleg symudol, y cyfryngau cymdeithasol, data mawr a mwy.
 
Cewch eich ysbrydoligan dueddiadau ‘mawr’, technolegau newydd, arferion gorau a thechnegau ymarferol i ragori mewn oes ddigidol sy’n datblygu’n gyflym.
 
Byddwch yn meithrin
 
dealltwriaeth o’ch dyfodol digidol
 
drwy gwrd ...

darllenwch mwy

Pafiliwn yn cau am gyfnod

10/04/2013
Categori: Arian a Busnes, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Iaith, Newyddion

Pafiliwn yn cau am gyfnod


Cafodd y pafiliwn grantiau o £2.3m, yn benna' oherwydd arian Amcan Un.

Mae Pafiliwn Pontrhydfendigaid yn cau am gyfnod oherwydd mae'r cwmni oedd yn ei gynnal, Pafiliwn Cyf, wedi dod i ben.
 
Y rheswm yw'r hinsawdd economaidd a llai o ddefnydd.
 
Ond mae cadeirydd y cwmni, John Watkin, wedi dweud na fydd y pafiliwn yn cau'n derfynol.
 
Dywedodd Elin Jones AC: "Hwn yw'r trydydd sefydliad elusennol i fynd i'r wal yng Ngheredigion ers chwe mis.
 
'Trist iawn'

"Mae'n drist iawn."
 
Mae disgwyl i'r Ŵyl Gerdd Dant gael ei chynnal yno ym mis Tachwedd.
 
Dywedodd Mr Watkin: "Mae'r banc wedi bod yn gwasgu arnon ni i ad-dalu £80,000 ... dy'n ni ddim yn gallu talu dyledion a dy'n ni ddim eisie bod yn yr un picil mewn 18 mi ...

darllenwch mwy

Goleuo'r Canolbarth 2013

13/03/2013
Categori: Arian a Busnes, Newyddion

Dydd Gwener, 15fed Mawrth - Hafren, Y Drenewydd

Digwyddiad undydd yw Goleuo’r Canolbarth fydd yn canolbwyntio ar lwyddiannau'r rhanbarth, canfod cyfleoedd newydd a chynnig strategaethau ar gyfer llwyddiant o fewn cyd-destun economaidd heriol.

Ysbrydoli Llwyddiant yw’r thema eleni ac mae'r digwyddiad wedi'i seilio ar gynadleddau hynod o lwyddiannus Goleuo'r Canolbarth 2011 a 2012 a ddenodd dros 200 o gynadleddwyr. Nod y diwrnod yw ysbrydoli, addysgu a dod â busnesau a mudiadau ynghyd i greu partneriaethau gwerthfawr.

Llywodraeth Cymru yw’r prif noddwr eleni ac mae’r digwyddiad yn bosib o ganlyniad i gydweithio cadarnhaol rhwng nifer o bartneriaid allwedd ...

darllenwch mwy

Yr Awr Gymraeg

27/02/2013
Categori: Ar-lein, Arian a Busnes, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Newyddion

Yr Awr Gymraeg


Yr Awr Gymraeg

Mae’r Awr Gymraeg ar Trydar bob nos Fercher rhwng 8.00 a 9.00 yr hwyr. 
Cyfle i fusnesau Cymraeg i hyrwyddo eu hunan, digwyddiadau neu cyfleoedd arbennig. Trydarwch y neges ar Trydar gyda "hashtag" #yagym a mwynhewch gynulleidfa o amgylch Cymru! Mae llawer yn gweld budd arno yn barod!
 
...does dim rhaid trydar yn Gymraeg! 
 
 
Cofiwch medrwch chi ddod o hyd i fusnes, digwyddiad, swydd, bargen, eitemau marchnad yn lleol neu yn genedlaethol drwy fynd i'r adrannau perthnasol uwchben.
 
Os ydych yn gweithio i neu’n cynrychioli busnes, sefydliad, elusen, ysgol, coleg neu brifysgol a’ch bod yn awyddus i hyrwyddo eich gwasanaeth Cymraeg, hysbysebion ...

darllenwch mwy

Dangos Talent Newydd ar Ddydd Gŵyl Dewi

20/02/2013
Categori: Arian a Busnes, Newyddion

Bydd prosiect Mentro CDG Sir Gâr yn cynnal ‘Ar y Tracs’, cyfres o berfformiadau byw ar drên Rheilffordd Calon Cymru i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth.

Gan adael o Lanymddyfri, bydd teithwyr yn mwynhau perfformiadau byw gan artistiaid newydd gorau Sir Gâr wledig wrth i’r trên fynd trwy Langadog, Ffairfach, Rhydaman a Llangennech cyn cyrraedd Llanelli.

Bydd y perfformiadau yn cynnwys: setiau acwsteg gan Gillie Rowland a Martin Goddard, barddoniaeth gan Frank Thomas, caneuon gwerin gyda’r Aunty Depressants a set gan y DJ Jason Lye Phillips.

Mae’r holl artistiaid sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad wedi gweithio’n agos gy ...

darllenwch mwy

Goleuo'r Gogledd 2012

13/09/2012
Categori: Arian a Busnes

Goleuo'r Gogledd 2012 Dydd Gwener, 2il Tachwedd - Venue Cymru, LlandudnoMae cynhadledd Goleuo'r Gogledd wedi tyfu i fod yn un o'r digwyddiadau yng nghalendr busnes y rhanbarth y dylech, heb os, ei mynychu. Nod y diwrnod yw ysbrydoli, addysgu a dod â busnesau a mudiadau ynghyd i greu partneriaethau buddiol er mwyn tyfu a ffynnu.Yn ystod y digwyddiad undydd hwn roddir cyfle i fynychwyr ganolbwyntio ar eu busnesau ac maent yn gadael wedi’u harfogi â syniadau arloesol, sgiliau a gwybodaeth newydd ynghyd â llwyth o gysylltiadau gwerthfawr.Ymunwch â ni i ddysgu sut y gallwch barhau i fod yn gystadleuol, wella eich perfformiad a chanfod ffyrdd newydd o weithio mewn eco ...

darllenwch mwy

Dathlu gyda Rhywbeth i Bawb yr hydref...

11/09/2012
Categori: Addysg, Ar-lein, Arian a Busnes, Bwyd, Celfyddydau, Chwaraeon, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Newyddion

Mae mis Tachwedd 2012 yn garreg filltir bwysig yn hanes darlledu yn yr iaith Gymraeg wrth i S4C ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed.Yn flaenllaw yn yr amserlen yr hydref hwn mae rhaglenni i ddathlu'r achlysur. Byddwn yn edrych yn ôl ar hanes y Sianel ac yn hel atgofion am hoff raglenni'r degawdau.Un o’r rhaglenni yw drama ddogfen am benderfyniad yr arweinydd gwleidyddol a’r cenedlaetholwr Gwynfor Evans i fygwth ymprydio hyd farwolaeth yn yr ymgyrch dros sianel Gymraeg.Mae Gwynfor, a ysgrifennwyd gan yr Archdderwydd T James Jones, yn ail-greu blwyddyn dyngedfennol ym mywyd Gwynfor Evans, gyda'r actor Aneirin Hughes yn portreadu Gwynfor.Ym mis Medi 1979, fe wnaeth Llywodraeth Ge ...

darllenwch mwy

A oes gennych chi syniad busnes?

22/06/2012
Categori: Arian a Busnes, Newyddion

Hoffech chi’r cyfle i ennill £7,000 allai helpu droi’r syniad yn realiti?
 
Ydych chi’n barod i brofi eich syniad o flaen panel o bobl busnes?
Mae Menter a Busnes ar y cyd â Llywodraeth Cymru a gyda chymorth Telesgôp yn trefnu’r gystadleuaeth hon ar gyfer siaradwyr Cymraeg sydd am fyw a gweithio yng Nghymru.
Bydd y seremoni wobrwyo yn digwydd ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morganwg ar ddydd Mercher yr 8fed o Awst am 11.30 o’r gloch. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw’r 6ed o Orffennaf 2012
 
 

 
Enillwyr Gorsedd y Dreigiau 2011 - Saloni
 

 
Cliciwch yma i gael rhagor o wyboda ...

darllenwch mwy