Paentiad adnabyddus yn cael ei arddangos yn y Llyfrgell Genedlaethol

31/01/2017

Categori: Celfyddydau, Chwaraeon, Newyddion

Fe fydd paentiad adnabyddus o garfan Cymru yn ystod yr Ewros, gan y gol-geidwad Owain Fôn Williams, yn cael ei arddangos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth o ganol mis Mawrth.

Ysbrydolodd cyffro’r haf hwnnw yn Ffrainc y gôl-geidwad cenedlaethol, Owain Fôn Williams, i ddal rhai o eiliadau gorau’r daith yn y paentiad ‘Together Stronger’, sy’n cyfleu ethos ‘gorau chwarae, cyd chwarae’ yn berffaith.

 

Dywedodd  Owain Fôn Williams, “Roedd haf 2016 yn un bythgofiadwy i ni yng Nghymru, un y gwnaf i fyth anghofio. Ar ôl dychwelyd adref a chael amser i feddwl am beth oedd wedi ei gyflawni a’i brofi gan y garfan, staff a’r cefnogwyr; mi benderfynais fod y cyfnod hwn yn ein hanes yn llawn haeddu cael ei gofnodi ar gynfas.Dwi wedi ceisio cyfleu’r ymdeimlad o ‘gyda’n gilydd yn gryfach’ – felly does neb yn ganolog yn y llun, doedd dim un unigolyn yn ganolog i’r llwyddiant.” 

 

O 18 Mawrth trwy gydol 2017 bydd ‘Together Stronger’ i’w weld yma yn y Llyfrgell, ochr yn ochr â rhai wynebau cyfarwydd eraill o’r Casgliad Portreadau Cenedlaethol, fel Ruth Jones, Dafydd Iwan, Gwynfor Evans a Siân Phillips.

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru