Siop Siarad
 
Yma cewch ddetholiad o newyddion o bob rhan o Gymru - yn erthyglau, storiâu, adolygiadau, polau piniwn ac adroddiadau gan unigolion, sefydliadau a busnesau. Y diben yw rhannu straeon lleol a chenedlaethol gyda phobl Cymru - rhannu storïau'r bobl gyda’r bobl. Felly os oes gyda chi stori i'w rhannu e-bostiwch hi at datganiad@lleol.cymru

Ymgyrch Cefnogwch eich Stryd Fawr

24/07/2014
Categori: Arian a Busnes, Newyddion

Beth sy’n gwneud eich stryd fawr chi yn lle mor wych? Yr hydref hwn, bydd Llywodraeth Cymru’n lansio ymgyrch ‘Cefnogwch eich Stryd Fawr’.
 
Mae’r ymgyrch yn elfen bwysig o’r Fframwaith ‘Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid’, a’i nod yw annog pobl a’u cymunedau i ddefnyddio eu stryd fawr leol.
 
Bydd wythnos yr ymgyrch yn dechrau ar 20 Medi ac rydym yn cydweithio â phartneriaid ar draws Cymru i ddatblygu digwyddiadau a gweithgareddau.
 
Bydd cymunedau lleol yn hanfodol i lwyddiant yr ymgyrch.  Fel rhan o hyn, rydym yn cynnal cystadleuaeth i blant rhwng 8 ac 11 oed (blynyddoedd 3-6) yr ysgolion lleol i&rsq ...

darllenwch mwy

S4C yn arwyddo cytundeb hanesyddol gy...

23/07/2014
Categori: Arian a Busnes, Iaith, Newyddion

Mae S4C wedi arwyddo Cytundeb o Fwriad i gydweithio ar amrywiaeth o gynyrchiadau gyda sianel JTV yn Ne Corea.
 
Dyma’r tro cyntaf i’r darlledwr S4C a’r cwmni cynhyrchu o Gaernarfon, Awen Media a Rondo Media, gydweithio mewn partneriaeth gyda darlledwr o Dde Corea.
 
Bydd y cynhyrchwyr o Gymru yn dechrau ffilmio tair rhaglen ddogfen yn Ne Corea ym mis Medi.
 
Mae’r cydweithio wedi dod yn bosibl drwy gydweithrediad a thrafodaethau gyda’r cwmni The Bridge, cwmni annibynnol ac arloesol sy’n pontio cynhyrchwyr ym Mhrydain gyda chwmnïau yn Asia.
 
Bydd un rhaglen ddogfen yn olrhain hanes y cenhadwr Robert Jermain Thomas yn ne Cor ...

darllenwch mwy

Labelu Cymraeg yn denu’r prynwyr

23/07/2014
Categori: Amaethyddiaeth, Ar-lein, Arian a Busnes, Bwyd, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Iaith

Labelu Cymraeg yn denu’r prynwyr, medd ymchwiliad Sioe Frenhinol
 
Mae ymchwil a ddadorchuddwyd yn y Sioe Frenhinol eleni wedi datgelu fod labelu dwyieithog Cymraeg a Saesneg ar gynnyrch yn medru profi i fod yn hw bi fusnes, a denu cynulleidfa ehangach. Wrth gyhoeddi’r newyddion, bu i Gomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, nodi y byddai’r ymchwil “galonogol” hyn yn cynnig mwy o hyder i gynhyrchwyr Cymreig. “Rydym wedi canfod fod defnyddio y Iaith Gymraeg o amgylch brand yn helpu greu hunaniaeth a phroffil unigryw. Wrth weld enw Cymraeg ar gynnyrch rydych yn gwybod ei fod yn dod o Gymru, gan gael ei gynhyrchu yn lleol, gan wasanaethu’r gymdeithas&rd ...

darllenwch mwy

£570,000 i ailddatblygu’r Bandstand a...

23/07/2014
Categori: Arian a Busnes, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Cystadlaethau, Hamdden, Newyddion

£570,000 i ailddatblygu’r Bandstand ar y Promenâd


Bandstand Aberystwyth


Promenâd Aberystwyth yn “sbardun ar gyfer twf lleol”

Roedd y Gweinidog Tai ac Adfywio Carl Sargeant yn Aberystwyth heddiw i weld sut mae gwaith adfywio yno yn helpu’r Promenâd i fod yn llwyddiant.
Yn ddiweddar, ariannodd Llywodraeth Cymru waith i adfywio’r ardal yn dilyn stormydd, yn ogystal â buddsoddi yng ngwedd a gwneuthuriad yr adeiladau. Yn ystod ei ymweliad, cyhoeddodd y Gweinidog gyllid pellach o £570,000 i ailddatblygu’r Bandstand ar y Promenâd.

 
Dywedodd y Gweinidog:
 
“Mae’n amlwg bod Bandstand eiconig Aberystwyth yn gyfleuster sy’n annwyl i’r trigolion lleol, ac rwy’n ...

darllenwch mwy