Tanysgrifio i RSS

Wedi darganfod 3492 cofnodion | Tudalen 323 o 350

Cyngor ar Bopeth Cymru yn rhybuddio

08/07/2014
Categori: Arian a Busnes, Iechyd, Newyddion

Cyngor ar Bopeth Cymru yn rhybuddio


Cyngor ar Bopeth Cymru

Cyngor ar Bopeth Cymru yn rhybuddio bod llawer o bobl yn ei chael hi’n anodd ymdopi yn sgil y diwygiadau lles.
 
Yn ôl adroddiad ‘Un Dydd ar y Tro’ sy’n cael ei lansio heddiw gan Cyngor ar Bopeth Cymru, mae llawer o’r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru yn cael eu gorfodi i fyw mewn cyni yn sgil y newidiadau mwyaf i’r system les mewn mwy na chweugain mlynedd.
 
Mae’r adroddiad yn seiliedig ar dystiolaeth o bob un o’r Canolfannau Cyngor ar Bopeth yng Nghymru yn ogystal â gwaith ymchwil ansoddol pwrpasol a gomisiynwyd gan Cyngor ar Bopeth Cymru i gael darlun o brofiad go iawn pobl o’r newidiadau diweddar i fudd- ...

darllenwch mwy

Alun Davies wedi cael y sac

08/07/2014
Categori: Newyddion

Alun Davies wedi cael y sac


Alun Davies yw Aelod Cynulliad Blaenau Gwent

Mae Alun Davies wedi cael y sac o gabinet Llywodraeth Cymru.
 
Mewn datganiad, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones fod Mr Davies wedi gofyn i'r gwasanaeth sifil am wybodaeth breifat am ddiddordebau ariannol Aelodau Cynulliad.
 
Roedd Mr Davies wedi bod yn y penawdau yn ddiweddar am lythyr roedd wedi ei ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol a Bwyd.
 
Daeth yr ysgrifennydd parhaol i'r casgliad ei fod wedi torri Cod y Gweinidogion am gymysgu'r ffiniau rhwng ei gyfrifoldebau fel Aelod Cynulliad ac fel Gweinidog y llywodraeth.
 
Ffynhonnell: BBC CYMRU FYW
 
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac f ...

darllenwch mwy

Darganfyddwch sut y gall y Gymraeg fo...

08/07/2014
Categori: Ar-lein, Arian a Busnes, Newyddion

Darganfyddwch sut y gall y Gymraeg fod o fantais i’ch busnes


Defnyddio’r Gymraeg mewn busnes

Dydd Mercher 2 Gorffennaf 2014 – dechrau am 6.00pm, Plaza Suite, gwesty’r Park Plaza, Caerdydd, CF10 3AL
 
Fe’ch gwahoddir i ymuno â Phrif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC i ddarganfod sut y gall y Gymraeg fod o fantais i’ch busnes.
Dewch i wrando ar brofiadau pob math o bobl busnes a pham eu bod yn defnyddio’r Gymraeg:

mae’n hawdd cynnwys ychydig o Gymraeg yn eich busnes
nid yw 2 iaith yn ddwbl y gwaith
gallai defnyddio’r Gymraeg fod o fudd i’ch busnes

 
 
 
Mae digwyddiadau pellach wedi’u trefnu:


Dydd Iau 24 Gorffennaf 2014 – Llanelli
Dydd Mercher 30 Gorffennaf 2014 & ...

darllenwch mwy

Prif Weinidog Cymru y cyntaf i record...

08/07/2014
Categori: Ar-lein, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Newyddion

Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, oedd y cyntaf i ymateb i apêl newydd gan Brifysgol Bangor am wirfoddolwyr i recordio’u llais er mwyn creu adnodd Adnabod Lleferydd Cymraeg newydd.
 
Mae systemau Adnabod Lleferydd yn bwysig ar gyfer cyfathrebu ar lafar gyda chyfrifiaduron, systemau ffôn, setiau teledu, a phob math o gyfarpar electronig arall. Er mwyn creu’r dechnoleg, mae angen recordio rhai cannoedd o bobl wahanol yn darllen testunau pwrpasol. Gorau oll os ceir amrywiaeth o leisiau, hen, ifanc, dynion, merched, acenion de, gogledd a dysgwyr. Defnyddir y recordiadau ar gyfer hyfforddi peiriannau adnabod lleferydd a fydd yn deall llais unrhyw un yn siarad Cymra ...

darllenwch mwy

Y Fflach o Aberteifi

08/07/2014
Categori: Cerddoriaeth, Newyddion

Beth sy’n gyffredin rhwng y band o Aberteifi, yr Ail Symudiad a’r Buzzcocks?- Yr ateb i hynny yw – mae’r ddau fand ymhlith y detholion prin iawn hynny sydd wedi pontio pum degawd yn perfformio ond y gwahaniaeth yw, mae’r band o Aberteifi yn parhau i berfformio’n gyson ac ar fin rhyddhau cyfrol o’r enw Fflach o Ail Symudiad a chryno ddisg i gofnodi’r hanes. Gyda chlasuron fel Rifieira Cymraeg, Garej Paradwys a Twristiaid yn y Dre, mae’r band dros y blynyddoedd wedi swyn gyfareddu cannoedd o gynulleidfaoedd led-led Cymru.
 
Bydd y gyfrol yn garreg filltir bwysig i’r band sy’n dathlu bron i dri deg pum mlynedd yn perfformi ...

darllenwch mwy

Sut i gyrraedd Eisteddfod Genedlaetho...

07/07/2014
Categori: Addysg, Adolygiadau Llyfrau, Ar-lein, Bwyd, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Chwaraeon, Cystadlaethau, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Gwleidyddiaeth, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Iaith, Llenyddiaeth, Newyddion

Sut i gyrraedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru


Sut i gyrraedd y Maes

Bydd meysydd parcio dros dro yr Eisteddfod yn cael eu lleoli i'r Dwyrain a'r Gorllewin o Lanelli gyda system bws gwennol yn weithredol.
 
Bydd y meysydd parcio yn cael eu nodi'n glir gydag arwyddion melyn ar bob prif gyffordd yn yr ardal.  Mae parcio a'r bws wennol i'r Maes yn rhad ac am ddim.
 
Bydd y gwasanaeth bws gwennol yn gweithredu ar bob adeg y mae'r Eisteddfod yn agored i’r cyhoedd ac yn eich cludo chi o'r meysydd parcio i Ganolfan Ymwelwyr yr Eisteddfod. Os gwelwch yn dda, cofiwch ganiatáu digon o amser ar gyfer y rhan hon o'ch taith a allai fod hyd at hanner awr.
 
Bydd y bysiau yn dychwelyd yn rheolaidd i'r meysydd parcio drwy gydol y dydd ...

darllenwch mwy

Menter y we yn cynnig mwy o gysur i g...

07/07/2014
Categori: Ar-lein, Iechyd

Menter y we yn cynnig mwy o gysur i gleifion


Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Matt Makin


Bydd menter newydd yn cael ei lansio'r wythnos hon i ganiatau cleifion i bori'r rhyngrwyd pan fyddant yn nhri phrif ysbyty Gogledd Cymru.
 
Bydd systemau Wifi cyhoeddus sydd wedi cael eu gosod yn Ysbyty Maelor Wrecsam, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Gwynedd yn mynd yn fyw ddydd Gwener, 11 Gorffennaf gan roi mynediad i gleifion a'r cyhoedd at y we unwaith y byddant yn dod i mewn i brif adeiladau'r ysbytai.
 
Mae'n rhad ac am ddim cyrchu'r system a bydd pob ffôn deallus a thabled gyfrifiadurol â gallu wifi yn synhwyro'r system wrth ddod i mewn i'r adeilad, ac yn cyfeirio'r defnyddiwr at dudalen lanio arbennig i ryngrwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
 
...

darllenwch mwy

Matthew Rhys yn llysgennad Sioe Gerdd...

02/07/2014
Categori: Addysg, Celfyddydau, Cerddoriaeth, Iaith

Matthew Rhys yn llysgennad Sioe Gerdd Theatrig yr Urdd a Clwyd Theatr Cymru Theatr


Llysgennad Sioe Gerdd Theatrig yr Urdd a Clwyd Theatr Cymru Theatr ar gyfer Pobl Ifanc

Mae’r actor Matthew Rhys heddiw wedi ei gyhoeddi fel llysgennad cynllun cyffroes rhwng Urdd Gobaith Cymru â Clwyd Theatr Cymru Theatr ar gyfer Pobl Ifanc.
 
Yn 2015 i ddathlu 150 o flynyddoedd ers i’r Cymry cyntaf ymfudo o Lerpwl i Batagonia bydd yr Urdd yn cydweithio mewn partneriaeth â Clwyd Theatr Cymru ar gynhyrchiad arbennig a fydd yn portreadu’r siwrne i Batagonia ar y Mimosa yn 1865.
 
Fe fydd y cynhyrchiad yn rhoi cyfle i 15 o bobl ifanc o Gymru a 5 o Batagonia i berfformio yn y cynhyrchiad arbennig hwn.
 
Dywed Matthew Rhys “Mae’n fraint i fod yn llysgennad y cynllun yma sy’n cynnig cyfleodd amhrisiadwy i bobl ifan ...

darllenwch mwy

Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig (SCG) ...

01/07/2014
Categori: Addysg, Cerddoriaeth, Iaith

Mae Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig (SCG) wedi dod â gweithrediadau’r cwmni i ben. 
 
Dyma ddatganiad gan y sefydliad isod.
 
Gyda thristwch mawr, o heddiw, Dydd Mawrth 1 Gorffennaf 2014 ymlaen, mae Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig (SCG) yn dod â gweithrediadau’r cwmni i ben.
 
Daeth cytundeb cyllid-craidd tair blynedd cyfredol SCG â Llywodraeth Cymru i ben ddoe, ar 30 Mehefin 2014. Er gwaethaf ein hymdrechion dros y naw mis diwethaf i drafod parhad y cyllid-craidd, ni ystyriai’r Bwrdd bod cynnig Llywodraeth Cymru o estyniad chwe mis, i alluogi’r cwmni i sicrhau ffrwd arall o incwm tra’n parhau i ddarparu’r gwasan ...

darllenwch mwy

Ympryd dros newidiadau cynllunio er l...

30/06/2014
Categori: Iaith, Iechyd

Mae cefnogwyr y Gymraeg wedi dechrau ympryd 24 awr heddiw (Dydd Llun, Mehefin 30) gan fynnu bod Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau i’r gyfraith cynllunio er lles yr iaith ar lefel gymunedol.
 
Daw’r newyddion wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Bil Cynllunio drafft nad yw’n cynnwys yr un cyfeiriad at y Gymraeg. Hynny er gwaethaf casgliadau'r Gynhadledd Fawr – ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar sefyllfa'r iaith yn dilyn canlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad - a argymhellodd newidiadau i'r gyfraith gynllunio er lles yr iaith. Yn ei ddatganiad yn gynharach yn y mis am ei bolisi iaith, ni chafwyd ymrwymiad gan y Prif Weinidog i wella’r Bil Cynllunio er mwyn cynn ...

darllenwch mwy