Taith ryngweithiol trwy wlad y chwedlau
Categori: Amgylchedd, Celfyddydau, Hamdden, Iaith, Newyddion

Eleni yw blwyddyn y chwedlau yng Nghymru ac mae sefydliad Llenyddiaeth Cymru wedi lansio gwefan newydd sy’n tywys ymwelwyr ar daith ryngweithiol drwy hanesion Cymru.
Fe fydd y wefan newydd yn gyfle iddynt gynllunio taith bersonol sydd wedi ei seilio ar eu hoff lyfrau a chwedlau.
Y nod yw dangos y gorau o lenyddiaeth, diwylliant a mythau Cymru yn cynnwys straeon lliwgar y Mabinogion ond hefyd yn edrych ar straeon chwedlonol yn nhreftadaeth diwydiannol Cymru.
Teithiau hudolus
Bydd Gwlad y Chwedlau yn tywys ymwelwyr ar deithiau hudolus, gan eu cyflwyno i’r straeon a’r cymeriadau sydd wedi creu’r wlad.
Ewch i wefan Gwlad y Chwedlau i ddechrau trefnu eich antur nesaf, gyda chyfle i ddewis, chwilota a dysgu am chwedloniaeth gwahanol ranbarthau o bob rhan o Gymru. Mwynhewch eich antur!
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru