Tîm pêl-droed Cymru yn dychwelyd i Stadiwm y Principality

16/05/2018

Categori: Chwaraeon, Hamdden, Newyddion

Fe gyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru ddoe y bydd Cymru’n dychwelyd am y tro cyntaf ers 2011 i Stadiwm y Principality ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Sbaen yn yr Hydref.

Dywedodd Jonathan Ford, Prif Weithredwr CBDC: “Rydym yn edrych ymlaen yn arw at chwarae yn erbyn un o dimau rhyngwladol mwyaf llwyddiannus pêl-droed dros y blynyddoedd diwethaf. “Mae hwn yn gyfle gwych i’n cefnogwyr wylio tîm arbennig gyda chwaraewyr o’r radd flaenaf. Rydym eisiau rhoi’r cyfle i bawb gael gwylio’r gêm ac mae chwarae’n Stadiwm y Principality yn ein galluogi i wneud hyn.” 

 

Ychwanegodd Rheolwr Stadiwm Principality, Mark Williams: “Heb os mae Stadiwm Principality yn stadiwm pêl-droed o fri sy’n adnabyddus drwy’r byd ac rydym yn falch o groesawu Cymru yn ôl ar gyfer y gêm yn erbyn Sbaen. “Y llynedd fe wnaeth Stadiwm Principality gynnal Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr, gan gydweithio’n agos gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru. “Mae llu o fawrion y byd pêl-droed wedi troedio’r cae yn ein stadiwm genedlaethol eiconig ac rydym yn edrych ymlaen at weld y genhedlaeth ddiweddaraf o sêr Cymru a Sbaen yn ychwanegu eu henwau at y rhestr hirfaith yn yr Hydref.” 

 

Dyma fydd y tro cyntaf i Gymru wynebu Sbaen ers 1985, pan sgoriodd Ian Rush (2) a Mark Hughes mewn buddugoliaeth o 3-0 mewn ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd FIFA yn y Cae Ras yn Wrecsam. 

 

Stadiwm Dinas Caerdydd

 

Ddydd Llun, fe wnaeth CBDC gyhoeddi y bydd holl gemau Cynghrair Cenhedloedd UEFA a gemau rhagbforol Ewropeaidd yn cael eu cynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd gyda thocyn Ymgyrch Y Wal Goch eto’r darparu gwerth gwych am arian. Yng Nghynghrair y Cenhedloedd, bydd Cymru’n cystadlu yn erbyn Denmarc a Gweriniaeth Iwerddon cyn i’r enwau gael eu tynnu ar gyfer ymgyrch ragbrofol EWRO 2020 UEFA ym mis Rhagfyr.

 

Mae llawer o selogion y Wal Goch wedi lleisio’i gwrthwynebiad fod tîm Cymru yn dychwelyd i’r Stadiwm hwn, ac mae sawl un wedi credu ei fod yn gamgymeriad. Mi ydynt o'r farn mai cartref ysbrydol y tîm cenedlaethol bellach yw Stadiwm Dinas Caerdydd. Ond mae Cymdeithas Bêl-Droed Cymru yn credu ar y llaw arall fod y lleoliad yn arbennig ac fod angen gwneud yn fawr o'r stadiwm. Ydych hi’n cytuno gyda thîm Cymru yn dychwelyd i Stadiwm y Principality? Mae cyfle i chi bleidleisio yma.

 

Ydych chi'n cytuno gyda dychwelyd i Stadiwm y Principality?

(Mae'r arolwg barn yma wedi cau)