Trethu tai haf: beth yw'ch barn chi?

30/09/2016

Categori: Iaith, Newyddion

Abersoch: Mwyafrif o dai'r dref yn dai haf

Mae nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi penderfynu codi treth ychwanegol ar ail gartrefi ond mae hynny wedi codi gwrychyn rhai sy'n cadw tai haf yng Nghymru.

Yr wythnos hon, fe fu’r rhaglen y Byd ar Bedwar yn siarad gyda pherchennog un tŷ gwyliau sy’n cyhuddo'r cyngor lleol o fod yn hiliol am godi treth ychwanegol ar ail gartrefi.

 

“Mae’r Cyngor yn moyn ‘mod i’n talu mwy. Pam? Achos ’mod i’n wicked English dw i’n credu, does dim rheswm arall.” meddai Lavinia Cohn-Sherbok a brynnodd dy gyda’i gwr ym Mwlch-Llan yng Ngheredigion ym 1997. 

 

Mae’n dweud y bydd y cynnydd yn Nhreth y Cyngor yn costio £400 yn ychwanegol y flwyddyn nesaf.

 

Yn ôl Lavinia Cohn-Sherbok, “Dydw i ddim yn hoffi cael fy ngorfodi i dalu mwy na fy nghymdogion oherwydd rhagfarn a theimladau gwrth-Seisnig,” 

 

Mae eraill yn dadlau fod tai haf yn cynyddu prisiau tai yn yr ardal leol, gan wthio pobl ifanc lleol allan o’u cymunedau, gan yn y pen draw ladd y gymuned Gymraeg. 

 

Cyfrannu i’r gymuned

 

Mae Arweinydd Cyngor Ceredigion, Ellen ap Gwynn yn gwrthod honiadau Lavinia Cohn-Sherbok, “Dw i ddim yn derbyn y ddadl yna o gwbl. Mae gyda ni lawer iawn o Saeson sydd wedi mewnfudo ac sydd wedi dewis byw yma. Nawr mae’r rheiny yn byw yma’n barhaol, ma’ nhw’n cyfrannu i’r gymuned drwy’r flwyddyn ac maen nhw wedi cael eu croesawu,” meddai.

 

Mae’r testun wedi bod yn bwnc llosg yng Nghymru ers diwedd y 1970au pan ddechreuodd ymgyrch losgi gan fudiad o’r enw Meibion Glyndwr a aeth ati i ddinistrio tai haf led-led Cymru. Cafodd dros 220 o dai eu llosgi rhwng 1979 a 1994. 

 

Beth yw'ch barn chi am gynyddu Treth y Cyngor ar ail gartrefi? Mae Aelod Cynulliad Ceidwadol dros Aberconwy, Janet Finch-Saunders yn credu ei fod yn ‘dreth i gosbi cyfoeth a theuluoedd sy'n gweithio'n galed" tra fod eraill yn credu fod y dylai perchnogion ail gartrefi dalu eu rhan. Mae eraill yn dadlau fod mewnfudo o Loegr gan deuluoedd i Gymru yn fwy niweidiol i’r Gymraeg na thai sy’n wag am ran fwyaf o’r flwyddyn. 

 

Beth yw'ch barn chi? Mae cyfle i chi bleidleisio yma: 


Ydych chi'n cytuno gyda'r dreth ar dai haf?

(Mae'r arolwg barn yma wedi cau)