Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
Trosolwg
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn dymuno penodi Cadeirydd newydd erbyn diwedd 2018 i arwain y cwmni drwy gyfnod cyffrous yn ei hanes.
Cyflogwr: Theatr Genedlaethol Cymru
Cyflog: Dim cyflog ond telir costau rhesymol
Dyddiad Cau: 28/09/2018 (144 diwrnod)
Amser Cau: 17:00:00
Gwybodaeth gyswllt
Enw Cyswllt: Angharad Jones Leefe
Ffôn: 01267245615
E-bost: danfonwch e-bost
Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad
Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn dymuno penodi Cadeirydd newydd erbyn diwedd 2018 i arwain y cwmni drwy gyfnod cyffrous yn ei hanes.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd â dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth dda o Gymru a’i diwylliant a’r celfyddydau ac sy’n fodlon ymrwymo i arwain datblygiad strategol y cwmni. Dyma gyfle i wneud cyfraniad o bwys wrth inni greu profiadau theatr o'r radd flaenaf yn y Gymraeg.
Gwahoddir unigolion a hoffai ragor o fanylion am y swydd i gysylltu ag Angharad Jones Leefe, Ysgrifennydd y Bwrdd / Cyfarwyddwr Gweithredol ar angharad.leefe@theatr.com neu 01267 245615.
Cynhelir cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 22 Hydref 2018
Swydd wirfoddol yw hon ond telir unrhyw gostau rhesymol.
Manylion Ychwanegol
Cliciwch ar y ddolen wefan uchod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*