Cyfieithydd
Trosolwg
Mae cwmni cyfieithu Bla Translation yn dymuno penodi cyfieithydd profiadol a chymwys i ymuno a'r tîm yn y swyddfa yng nghanol Llangefni. Mae hon yn swydd llawn-amser o ddydd Llun i ddydd Gwener
Cyflogwr: Bla Translation
Cyflog: Hyd at £27,000 yn ddibynnol ar brofiad
Dyddiad Cau: 15/02/2019 (8 diwrnod)
Amser Cau: 12:00:00
Lleoliad
Neuadd Y Dref Sgwâr Bulkeley Llangefni, Ynys Môn, Cymru LL77 7LRGwybodaeth gyswllt
Enw Cyswllt: Alun Gruffydd
Ffôn: 01248 725730
E-bost: danfonwch e-bost
Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad
Mae Bla Translation yn gwmni cyfieithu llwyddiannus ac uchelgeisiol sydd ar hyn o bryd yn cynnwys 8 o gyflogeion. Ym mis Tachwedd 2018 enillodd y cwmni wobr 'Busnes Gorau hyd at 10 o weithwyr' yng ngwobrau Busnes y Daily Post. Wrth i lwyth gwaith y cwmni gynyddu, mae Bla yn dymuno penodi cyfieithydd ysgrifenedig (dau efallai) i ymuno â'r tîm. Dymunwn benodi unigolyn sydd â chryn brofiad o gyfieithu o Saesneg i Gymraeg, ynghyd â chymwysterau perthnasol yn y maes.
Gall y cwmni gynnig gwyliau hael ynghyd â phecyn pensiwn sylfaenol trwy NEST ac awyrgylch swyddfa braf a chyfoes yng nghanol tref Llangefni.
Cysylltwch ag Alun Gruffydd alun@bla-translation.co.uk am ragor o wybodaeth a manylion ynglŷn ag ymgeisio.
This is an advert for a translator's post, for which the ability to speak Welsh is essential.
Manylion Ychwanegol
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*