Cyfieithydd
Trosolwg
Mae cwmni Calan yn ehangu, ac felly hoffem benodi Cyfieithwyr medrus i ymuno â’n tîm cyfeillgar a phroffesiynol. A oes gennych chi lygad craff, sgiliau Cymraeg o’r radd flaenaf a’r awydd i rannu’r...
Cyflogwr: Calan
Cyflog: £22,000 - £28,000
Dyddiad Cau: 22/01/2018 (92 diwrnod)
Amser Cau: 17:00:00
Lleoliad
62A Stryd Fawr Y Bont-faen Y Bontfaen, Bro Morgannwg, Cymru CF717AHGwybodaeth gyswllt
Enw Cyswllt: Lisa Pugh
Ffôn: 01446771345
E-bost: danfonwch e-bost
Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad
Mae cwmni Calan yn ehangu, ac felly hoffem benodi Cyfieithwyr medrus i ymuno â’n tîm cyfeillgar a phroffesiynol.
A oes gennych chi lygad craff, sgiliau Cymraeg o’r radd flaenaf a’r awydd i rannu’r sgiliau hynny â thîm o gyfieithwyr profiadol?
Os felly, dewch i ymuno â ni yn ein swyddfa yn nhref farchnad ddymunol y Bont-faen!
Mae hon yn swydd barhaol a llawn amser, ac yn cynnwys pensiwn a thelerau hyblyg.
Band Cyflog: £22,000 – £28,000.
Pe byddai ceisiadau gan ymgeiswyr eithriadol, byddem yn ystyried penodi ar raddfa Uwch-gyfieithydd. Mae croeso i chi gael sgwrs anffurfiol am y cyfle hwn drwy ffonio Lisa Pugh neu Elin Howell ar 01446 771345.
I wneud cais, cysylltwch â ni yn calan@calan.cymru neu 01446 771345 i ofyn am ffurflen gais.
Dyddiad cau: diwedd y dydd, Dydd Llun, 22 Ionawr 2018.
Manylion Ychwanegol
Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a dogfennau defnyddiol:
Ffurflen Gais (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)