Cyfwelydd Ffôn (Gweithio o adref) x3
- Swyddi Cymraeg Achlysurol
- Swyddi Cymraeg Contract
- Swyddi Cymraeg Dros Dro
- Swyddi Cymraeg Llawn Amser
- Swyddi Cymraeg Rhan Amser
Trosolwg
Mae IFF Research yn cynnig rolau cartref hyblyg iawn dros y wlad, gyda'r gallu i hwyluso daliadau 3-9yh, nosweithiau a phenwythnosau.
Cyflogwr: IFF Research
Cyflog: £11.54ph + bonws
Dyddiad Cau: 14/12/2018 (71 diwrnod)
Amser Cau: 17:00:00
Lleoliad
Gweithio a adrefGwybodaeth gyswllt
Enw Cyswllt: Lawrence Platts
E-bost: danfonwch e-bost
Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad
Rydych chi'n berson pobl, rhywun sy'n hoffi cysylltu ag eraill a deall eu stori. Gallwch chi gyfathrebu mewn tôn deniadol a dibynadwy, tra hefyd yn gallu gwrando ac ymateb. Mae gennych gymhelliant ac yn angerddol am yr hyn rydych chi'n ei wneud a'r effaith mae gan eich rôl yn y byd ehangach. Rydych chi'n chwilio am sialens, ond un sy'n hyblyg o gwmpas eich ymrwymiadau a'ch ffordd o fyw.
…Swnio'n gyfarwydd?
Mae IFF Research yn cynnig rolau cartref hyblyg iawn dros y wlad, gyda'r gallu i hwyluso daliadau 3-9yh, nosweithiau a phenwythnosau.
Byddwch yn ymgysylltu a busnesau ac aelodau'r cyhoedd mewn perthynas â phrosiectau ymchwil parhaus ar ran y llywodraeth, prifysgolion a chleientiaid y sector preifat. Nid oes dim gwerthu o gwbl dan sylw!
Bydd ein tîm hyfforddi mewnol yn darparu hyfforddiant a chymorth lawn cyn gynted ag y byddwch yn ymuno a ni, ac ar ôl hynny bydd ein Harweinwyr Tîm gwasanaethau cyfweld ar gael i gefnogi chi trwy bob prosiect ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Mae angen i chi fod yn rhugl yn y Gymraeg a bod gennych gysylltiad rhyngrwyd sefydlog, cyfrifiadur a chlustffonau gyda meicroffon, byddwn ni'n darparu'r gweddill!
Ychydig mwy amdanom ni
Fe'i sefydlwyd ym 1965, mae IFF Research yn darparu atebion ymchwil pwrpasol ar gyfer sefydliadau, busnesau ac unigolion, gan ei helpu i wneud penderfyniadau gwybodus. Mae IFF Research heddiw yn bartner dibynadwy mewn nifer o sefydliadau sector cyhoeddus a phreifat ac yn parhau i gynnig portffolio llawn o wasanaethau ymchwil.
Gofynion cyfarpar
Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu eu cyfarpar eu hunain, fel cyfrifiadur neu laptop a chlustffonau addas.
Gofynion Rhyngrwyd…
• Bydd angen i led band gwarantedig bod yn 2Mbs yn y ddau gyfeiriad (lawr lwytho a llwytho i fyny), gyda phing o lau na 20ms (Profi fan hyn: http://www.speedtest.net)
• Rhaid i chi allu cysylltu yn syth a'ch llwybrydd trwy'r cebl ethernet (Ni chefnogi'r Wifi, Wifi Extenders, Wifi + Powerline neu Powerline)
I wneud cais, anfonwch eich CV, eich lefel o hyfedredd Cymreig a phrofiad gwaith perthnasol blaenorol i cyfwelydd@iffresearch.com
Manylion Ychwanegol
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*