Cynorthwydd Gweinyddol a Chyfrifon
Trosolwg
Cyfle i fod yn rhan o dim brwdfrydig Dunn & Ellis Cyf. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr brwdfrydig i ymuno a’r tîm, ac mi fydd profiad blaenorol yn fanteisiol ond ddim yn hanfodol i’r swydd, gan y...
Cyflogwr: Dunn & Ellis Cyf
Cyflog: I'w drafod
Dyddiad Cau: 28/09/2018 (148 diwrnod)
Amser Cau: 11:55:00
Lleoliad
Adeilad St Davids Stryd Lombard Porthmadog, Gwynedd, Cymru LL49 9APGwybodaeth gyswllt
Enw Cyswllt: Miss Sian Owen
Ffôn: 01766 512 361
E-bost: danfonwch e-bost
Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad
Cyfle i fod yn rhan o dim brwdfrydig Dunn & Ellis Cyf. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr brwdfrydig i ymuno a’r tîm, ac mi fydd profiad blaenorol yn fanteisiol ond ddim yn hanfodol i’r swydd, gan y bydd hyfforddiant ar gael.
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus fod gyda cymhwyster TGAU mewn Mathemateg, Cymraeg a Saesneg graddau A*- C, ac yn brofiadol yn defnyddio systemau Microsoft Office, yn enwedig Excel a Word
Mae Dunn & Ellis Cyf yn gwmni o gyfrifwyr siartredig ac yn ymgynghorwyr treth siartredig. Heddiw, rydym yn dîm o 37 o bobol, yn dîm ifanc gyda phrofiad helaeth.
Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau:
• Cynorthwyo y cyfarwyddwr hefo unrhyw waith gweinyddol sydd yn ofynnol
• Cynorthwyo i baratoi cyfrifon ar gyfer gwahanol fusnesau h.y. unig fasnachwyr, partneriaethau a chwmnïau cyfyngedig o dan oruchwyliaeth.
• Paratoi a dadansoddi yr holl gofnodion perthnasol â ofynnir.
• Hyfforddiant i ddefnyddio y systemau cyfrifiadurol e.e. Iris, AutoRec, Sage.
• Sicrhau bod terfynau amser e.e. Ty’r Cwmnïau, HMRC ayyb yn cael eu cyrraedd yn brydlon.
• Cynorthwyo i baratoi ffurflenni treth personol a chorfforaethol o dan oruchwyliaeth.
• Paratoi ffurflenni TAW o dan oruchwyliaeth a chysylltu gyda cleientiaid i’w hatgoffa i anfon cofnodion TAW er mwyn paratoi y ffurflen ar eu rhan.
• Sicrhau bod taflenni amser yn cael eu gwneud bob dydd.
• Unrhyw waith clerigol arall sydd yn ofynnol gan oruchwylwyr a chyfarwyddwyr y swyddfa.
Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy yrru CV a llythyr cais dros e-bost at sylw Sian Owen: sian@dunnandellis.co.uk erbyn y dyddiad cau.
Manylion Ychwanegol
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*