Darlithydd Cymorth Cyntaf

Trosolwg

Rydym yn chwilio am unigolyn hunanhyderus, creadigol a llawn dychymyg i ymuno â ni fel Darlithydd Cymorth Cyntaf ar ein safle Llaneurgain. Bydd y cwrs hwn yn cael ei ddarparu trwy gyfrwng y...

Cyflogwr: Coleg Cambria

Cyflog: £22,827 i £38,62

Dyddiad Cau: 20/11/2017 (2 diwrnod)

Amser Cau: 17:30:00

Lleoliad

Coleg Cambria Ffordd Treffynnon Llaneurgain Sir y Fflint Fflint, Sir y Fflint, Cymru CH7 6AA

Gwybodaeth gyswllt

Enw Cyswllt: Adnoddau Dynol

Ffôn: 01978 267368

E-bost: danfonwch e-bost

Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad

Darlithydd Cymorth Cyntaf

Llaneurgain

Cyflog £22,827 to £38,629 y flwyddyn / £20.40 - £34.52 yr awr (sy’n cynnwys tâl gwyliau) yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol

Swydd achlysurol sy’n cael ei thalu fesul awr

Coleg Cambria yw un o golegau mwyaf Prydain, gan gyflogi dros 1450 o staff ar 5 safle sydd wedi'u lleoli'n gyfleus yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ac sy'n hawdd cyrraedd atynt o Ogledd Cymru, Swydd Amwythig, Cilgwri, Glannau Merswy a Swydd Gaer.

Rydym yn chwilio am unigolyn hunanhyderus, creadigol a llawn dychymyg i ymuno â ni fel Darlithydd Cymorth Cyntaf ar ein safle Llaneurgain. Bydd y cwrs hwn yn cael ei ddarparu trwy gyfrwng y Gymraeg, ac felly mae’n hanfodol eich bod yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl. Mae hon yn swydd achlysurol sy’n cael ei thalu fesul awr.

Gan ddangos egni a brwdfrydedd yn yr amgylchfyd dysgu, byddwch yn addysgu yn ôl yr amserlen, paratoi deunyddiau dysgu, marcio gwaith myfyrwyr, cysylltu â chyrff dyfarnu a goruchwylio arholiadau yn ôl y galw. Wrth i chi weithredu fel tiwtor personol, gan roi arweiniad addysgol, cynorthwyo a chwnsela ar gyfer pob myfyriwr, byddwch yn cysylltu â thiwtoriaid meysydd eraill y coleg o ran adnoddau, datblygu’r cwricwlwm, adroddiadau myfyrwyr a materion cysylltiedig eraill, yn ogystal â chwblhau a chynhyrchu dogfennau fel cofrestri, cynlluniau gwaith, cofnodion gwaith, adolygiadau cyrsiau, dogfennau dadansoddi cyrsiau ac adroddiadau myfyrwyr.

Bydd gennych gymhwyster Lefel 4 o leiaf mewn maes pwnc arbenigol perthnasol yn ogystal â chymhwyster dysgu fel Tystysgrif Addysg, TAR neu City & Guilds 7407 neu’n gweithio tuag at hynny. Byddwch yn gallu paratoi deunyddiau addysgu ysgrifenedig a gweledol effeithiol a byddwch yn gallu canfod, dehongli a chymhwyso gwybodaeth benodol i’w chyflwyno a’ch bod yn aelod cadarn o dîm sy’n gallu meithrin perthnaseddau gwaith effeithiol.

Byddwch yn gwybod am bwysigrwydd safonau ansawdd mewn addysgu. Bydd gennych wybodaeth am ystod eang o anghenion dysgu a sut i gynorthwyo i ddiwallu’r anghenion hynny mewn amgylchfyd dysgu a byddwch yn gallu dangos a deall datblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol chi eich hun. Dylech fod yn agored ac yn ymatebol i anghenion pobl eraill ac yn gallu addasu'n gyflym i amgylchiadau sy'n newid a syniadau newydd.

Byddwn yn gofyn am ddatgeliad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd.
A bydd gofyn i chi gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg.

Manylion Ychwanegol

Cliciwch ar y ddolen wefan uchod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*