Darlithydd – Dysgu Cymraeg, Cymraeg i Oedolion

Trosolwg

Dyma gyfle cyffrous i Ddarlithydd Dysgu Cymraeg i ymuno â ni ar gontract Achlysurol a Delir Fesul Awr i gyflwyno ystod o gyrsiau Dysgu Cymraeg.

Cyflogwr: Coleg Cambria

Cyflog: £20.40 - £34.52 yr awr

Dyddiad Cau: 17/10/2018 (6 diwrnod)

Amser Cau: 05:00:00

Lleoliad

Gogledd Cymru

Gwybodaeth gyswllt

Enw Cyswllt: Adnoddau Dynol

Ffôn: 01978 267368

E-bost: danfonwch e-bost

Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad

Lleoliad – Gogledd Cymru

Cyflog £20.40 - £34.52 yr awr (sy’n cynnwys tâl gwyliau), yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol

Staff achlysurol, a delir fesul awr

Dyma gyfle cyffrous i Ddarlithydd Dysgu Cymraeg i ymuno â ni ar gontract Achlysurol a Delir Fesul Awr i gyflwyno ystod o gyrsiau Dysgu Cymraeg.

Yn y swydd hon, byddwch yn addysgu yn ôl yr amserlen, paratoi deunyddiau dysgu, marcio gwaith myfyrwyr, cysylltu â chyrff dyfarnu cymwysterau a goruchwylio arholiadau yn ôl y galw. Byddwch yn rhoi arweiniad, cymorth a chyngor addysgol gwerthfawr i fyfyrwyr ac yn cwblhau a chynhyrchu dogfennau y cytunwyd arnynt fel; cofrestri, cynlluniau gwaith, cofnodion gwaith, adolygiadau cyrsiau, dogfennau dadansoddi cyrsiau, adroddiadau myfyrwyr ac adroddiadau absenoldeb erbyn y dyddiad cau.

Os oes gennych gymhwyster Lefel 4 o leiaf mewn maes pwnc arbenigol perthnasol, a chymhwyster addysgu fel Tystysgrif Addysg, TAR a City & Guilds 7407, yna hoffem glywed gennych chi.

Rydym yn chwilio am unigolyn creadigol, arloesol a llawn dychymyg, sy'n gallu dangos egni a brwdfrydedd yn yr amgylchedd dysgu. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog, ac yn agored ac yn ymatebol i anghenion pobl eraill. Byddwch yn gallu adnabod cryfderau ac anghenion datblygu’r myfyrwyr a’u gwneud yn ymwybodol ohonynt hefyd. Byddwch yn gallu dangos eich bod yn deall y datblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol eich hun yn ogystal â chanfod, dehongli ac addasu gwybodaeth benodol i’w harfer.

Mae’n hanfodol eich bod yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl ar gyfer y swydd hon.

Yn gyfnewid am eich gwaith caled a’ch ymroddiad, gallwn addo i chi; gynllun pensiwn ardderchog, hawl gwyliau blynyddol hael, talebau gofal plant o aberthu cyflog, gostyngiadau ar nifer o gyrsiau nos y coleg, cyfraniad o hyd at 1/3 at ffioedd cyrsiau proffesiynol, gostyngiad ar aelodaeth gampfa a llawer mwy!

Byddwn yn gofyn am ddatgeliad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Bydd gofyn i chi gofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg hefyd.

Amdanom ni

Coleg Cambria yw un o golegau mwyaf Prydain ac mae’n cyflogi dros 1450 o staff ar 5 safle sydd wedi'u lleoli'n gyfleus yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Manylion Ychwanegol

Cliciwch ar y ddolen wefan uchod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*