Swyddog Gweinyddol Tai - Penygroes a Llangefni
Trosolwg
Darparu cefnogaeth gweinyddol i’r timoedd tai, tai â chefnogaeth a lles ac i'r uwch dîm rheoli tai a tai â chefnogaeth.
Cyflogwr: Grwp Cynefin
Cyflog: £20,518 - £23,093
Dyddiad Cau: 27/09/2018 (145 diwrnod)
Amser Cau: 12:00:00
Lleoliad
Penygroes Penygroes LL54 6LYGwybodaeth gyswllt
Enw Cyswllt: Iona Jones
Ffôn: 1745818407
E-bost: danfonwch e-bost
Gwefan: Ewch i'r wefan

Cyflwyniad Fideo
Disgrifiad
1. Darparu pecyn tenantiaeth priodol ar gyfer pob tenant newydd, gan sicrhau diwyg proffesiynol.
2. Sicrhau cyhoeddiadau a thaflenni o safon ar gyfer tenantiaid a’r cyhoedd gan gynnwys newyddlenni, adroddiadau
blynyddol, taflenni marchnata, llythyrau safonol a.y.b.
3. Cynnal system proffil tenantiaid er mwyn gallu mapio anghenion a thueddiadau
4. Yn absenoldeb y Swyddog Rhent mewnbynnu taliadau i’r system gyfrifiadurol
5. Darparu gwybodaeth yn rheolaidd i’r Tîm Datblygu, Grŵp Gwerthuso ac Awdurdodau lleol ynghylch y stoc o dai sydd
gennym a’r trosiant ynddynt.
6. Gweinyddu trefn adolygu Cytundebau Cychwynnol ar draws yr ardal weithredu
7. Darparu gwasanaeth gweinyddol cyffredinol i’r Adran fel bo’r angen a chynorthwyo timoedd yr Adran mewn cyfnodau
prysur.
8. Trefnu lleoliadau cyfarfodydd, paratoi rhaglenni, trefnu derbyn a dosbarthu adroddiadau a chadw cofnodion cywir a chryno
o’r trafodaethau.
9. Yn gyfrifol am sicrhau bod gwybodaeth am sut i gofrestru am eiddo a rhestrau lleoliadau eiddo yn gyfredol ac yn cael eu
diweddaru’n rheolaidd ar y wefan a/neu Clic .
10. Llwytho polisïau a gwybodaeth yr Adran ar Clic i sicrhau ei fod yn gyfoes
11. Gweinyddu Homeswapper ar ran y Gymdeithas.
12. Mewnbynnu data i systemau amrywiol.
13. Sicrhau cofnodi gwybodaeth rheoli eiddo ar y system gyfrifiadurol yn gywir a’i gadw yn gyfredol drwy ei wirio a’i
ddiweddaru fel sydd angen
14. Yn gyfrifol am archebu ar ran yr Adran Gwasanaethau Cymunedol gan weithio’n agos gyda’r Tîm Cyllid a Gweinyddydd Tai
ardaloedd eraill.
15. Sicrhau mynediad i wybodaeth trwy gynnal a chadw systemau ffeilio cyfrinachol a diogel.
16. Cyd-weithio â staff yr Adran i ddatblygu systemau gweinyddol effeithiol gan gydymffurfio â gofynion mewnol a chyllidwyr
allanol. Rhoi cyngor a hyfforddiant ar y systemau i weithwyr a gwirfoddolwyr fel bo’r angen.
Manylion Ychwanegol
Cliciwch ar y ddolen wefan uchod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd
Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd i weld isod
Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a dogfennau defnyddiol:
Pecyn Gwybodaeth Ymgeiswyr (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)
Ffurflen gais (fersiwn pdf) (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)
Ffurflen gais (fersiwn word) (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)