Rheolwr Cymraeg Gwaith

Trosolwg

Gan ymuno â ni fel Rheolwr Cymraeg Gwaith, byddwch yn arwain ac yn rheoli rhaglenni Cymraeg Gwaith yn effeithiol, er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth gwricwlwm yn ateb gofynion dysgwyr, cyflogwyr a rha

Cyflogwr: Coleg Cambria

Cyflog: £39,119 - £41,676

Dyddiad Cau: 26/06/2018 (115 diwrnod)

Amser Cau: 17:00:00

Lleoliad

Glannau Dyfrdwy a Wrecsam

Gwybodaeth gyswllt

Enw Cyswllt: Adran Adnoddau Dynol

Ffôn: 01978 267368

E-bost: danfonwch e-bost

Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad

Rheolwr Cymraeg Gwaith

Glannau Dyfrdwy a Wrecsam

Cyflog £39,119 - £41,676 y flwyddyn yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol

Parhaol, Llawn Amser

Coleg Cambria yw un o golegau mwyaf Prydain ac mae’n cyflogi dros 1450 o staff ar 5 safle sydd wedi'u lleoli'n gyfleus yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ac sy'n hawdd cyrraedd atynt o Ogledd Cymru, Swydd Amwythig, Cilgwri, Glannau Merswy a Swydd Gaer.

Gan ymuno â ni fel Rheolwr Cymraeg Gwaith, byddwch yn arwain ac yn rheoli rhaglenni Cymraeg Gwaith yn effeithiol, er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth gwricwlwm yn ateb gofynion dysgwyr, cyflogwyr a rhanddeiliaid eraill. Bydd yn ofynnol i chi sicrhau bod darpariaeth y cwricwlwm o'r ansawdd gorau posibl o ran canlyniadau dysgwyr a bodlonrwydd dysgwyr / cyflogwyr a'i bod yn
cyd-fynd â gweledigaeth, cenhadaeth, nodau a gwerthoedd y Coleg.

I lwyddo yn y swydd hon, mae’n hanfodol bod gennych radd berthnasol (neu gymhwyster cyfwerth) a phrofiad o weithio yn y sector addysg. Gyda hanes y gellir ei brofi o arwain tîm, byddwch yn gwybod am ffrydiau cyllido gwahanol ac yn eu deall. Bydd gennych hanes diweddar o ymgysylltu’n llwyddiannus â chyflogwyr a phrawf o hynny. Byddem hefyd yn hoffi petaech yn gallu gweithio i derfynau amser a than bwysau a bod gennych sgiliau rheoli prosiectau cadarn, yn ogystal â gallu ysgogi a chanfod cyfleoedd datblygu priodol ar gyfer aelodau tîm.

Byddai’n dra manteisiol petai gennych gymhwyster dysgu neu asesu.

Mae’n hanfodol eich bod yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl.

Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd.

Dyddiad Cau: 26/06/2018

Manylion Ychwanegol

Cliciwch ar y ddolen wefan uchod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*