Uwch Swyddog Cyllid
Trosolwg
Cynorthwyo’r Rheolwr Cyllid i baratoi cyfrifon rheoli’r Gymdeithas drwy sicrhau bod cyfrifon rheoli misol yn cael eu darparu i rai o brosiectau Grŵp Cynefin.
Cyflogwr: Grwp Cynefin
Cyflog: £27,574 - £31,035 y flwyddyn pro rata
Dyddiad Cau: 27/09/2018 (145 diwrnod)
Amser Cau: 12:00:00
Lleoliad
54 Stryd y Dyffryn, Dinbych Cymru LL16 3BWGwybodaeth gyswllt
Enw Cyswllt: Iona Jones
Ffôn: 1745818407
E-bost: danfonwch e-bost
Gwefan: Ewch i'r wefan

Cyflwyniad Fideo
Disgrifiad
1. Paratoi cyfrifon rheoli misol ac unrhyw adroddiadau perthnasol ar gyfer Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych (GaThCaSDd) i sylw'r Rheolwr Cyllid.
2. Cynorthwyo’r Rheolwr Cyllid i baratoi cyfrifon rheoli’r Gymdeithas drwy sicrhau bod cyfrifon rheoli misol yn cael eu darparu i rai o brosiectau Grŵp Cynefin.
3. Cyfrifoldeb am sicrhau fod holl incwm prosiectau a GaThCaSDd wedi cael ei hawlio’n amserol.
4. Paratoi dychweliadau ar gyfer GaThCaSDd i Lywodraeth Cymru.
5. Cynorthwyo yn y broses o baratoi cyllideb flynyddol a chynllun ariannol pum mlynedd i GaThCaSDd.
6. Cyfrifoldeb am ddiweddaru'r Polisi Cronfeydd Wrth Gefn ar gyfer GaThCaSDd.
7. Cynorthwyo yn y broses o baratoi dychweliadau TAW.
8. Cynnal rhestr arbedion Gwerth Am Arian a chyfrifoldeb am gofrestr tendrau a chytundebau.
9. Sicrhau bod gwaith yn cael ei gyflawni i safon uchel, ar amser ac o fewn cyllidebau.
10. Ymateb i ymholiadau mewnol ac allanol yn broffesiynol ac yn ddi-oed.
11. Cyflwyno adroddiadau rheolaidd yn unol â gofynion y swydd.
12. Sicrhau bod y gwasanaethau’n cael eu cynnal mewn modd sy’n cyd-fynd â pholisïau yn ogystal â deddfwriaethau perthnasol.
13. Cynrychioli’r gwasanaeth yn fewnol ac allanol fel bo’r angen.
14. Datblygu perthynas waith rhagorol yn fewnol ac allanol.
Manylion Ychwanegol
Cliciwch ar y ddolen wefan uchod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd
Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd i weld isod
Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a dogfennau defnyddiol:
Pecyn Gwybodaeth Ymgeiswyr (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)
Ffurflen gais (fersiwn pdf) (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)
Ffurflen gais (fersiwn word) (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)