Swyddog Cyfathrebu (Hyrwyddo)
Trosolwg
Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu (Hyrwyddo) profiadol i ymuno â’r tîm Cyfathrebu. Fel aelod o dîm byddwch yn gyfrifol am ddweud wrth y byd am raglenni, cynnwys a gwasanaethau S4C.
Cyflogwr: S4C
Cyflog: £25,506 - £29,466
Dyddiad Cau: 16/10/2018 (125 diwrnod)
Amser Cau: 12:00:00
Lleoliad
Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C:Yr Egin, Caerfyrddin, neu os bydd S4C yn gofyn unrhyw le arall yng Nghymru y bydd rhan neu’r cyfan o weithgareddau S4C wedi eu lleoli o bryd i’w gilydd. Bydd S4C yn rhoi rhybudd rhesymol o’r gofyniad ichi neGwybodaeth gyswllt
Enw Cyswllt: Adnoddau Dynol
E-bost: danfonwch e-bost
Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad
Rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu (Hyrwyddo) profiadol i ymuno â’r tîm Cyfathrebu. Fel aelod o dîm byddwch yn gyfrifol am ddweud wrth y byd am raglenni, cynnwys a gwasanaethau S4C.
Byddwch yn defnyddio amrywiaeth o sgiliau a thechnegau i gyfleu negeseuon, denu gwylwyr a chynnal trafodaeth rhwng S4C a’i rhan-ddeiliaid.
Yn ogystal â meddu ar sgiliau cyfathrebu dwyieithog rhagorol, disgwylir i ddeilydd y swydd fod â phrofiad o adeiladu a datblygu perthnasau allweddol. Mae profiad o weithio’n llwyddiannus ar ymgyrchoedd hyrwyddo ac ymwneud â’r wasg mewn Cymraeg gywir hygyrch yn hanfodol.
Cyflog: £25,506 - £29,466 yn unol â phrofiad (disgwylir y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei ph/benodi ar ricyn gyntaf yr ystod gyflog)
Cytundeb: Parhaol ar ôl cyfnod prawf o 6 mis
Oriau: 35¾
Lleoliad: Lleoliad arferol eich gwaith fydd Canolfan S4C:Yr Egin, Caerfyrddin, neu os bydd S4C yn gofyn unrhyw le arall yng Nghymru y bydd rhan neu’r cyfan o weithgareddau S4C wedi eu lleoli o bryd i’w gilydd. Bydd S4C yn rhoi rhybudd rhesymol o’r gofyniad ichi newid lleoliad eich gwaith. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn o dro i dro.
Dylid anfon ceisiadau erbyn 12:00 y prynhawn ar ddydd Mawrth 16 Hydref 2018 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu'r tîm Adnoddau Dynol, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. Nid ydym yn derbyn CV
Manylion Ychwanegol
Cliciwch ar y ddolen wefan uchod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd
Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd i weld isod
Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth
*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*
Lawrlwythiadau / Ffurflenni a dogfennau defnyddiol:
Disgrifiad Swydd (Dewiswch 'arbed / save' os anogir)