Swyddog Cyfathrebu (Y Wasg)

Trosolwg

Fe fyddwch wedi gweithio fel newyddiadurwr/wraig neu swyddog y wasg ac wedi arfer sgwennu datganiadau a chopi bachog. Byddwch wedi arfer cysylltu â’r wasg i werthu stori, neu i dderbyn galwadau gan...

Cyflogwr: S4C

Cyflog: £25,762 - £31,094

Dyddiad Cau: 13/08/2018 (3 diwrnod)

Amser Cau: 12:00:00

Lleoliad

Caerdydd tan fis Medi 2018, ac yna Canolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin

Gwybodaeth gyswllt

Enw Cyswllt: Adran Adnoddau Dynnol

E-bost: danfonwch e-bost

Gwefan: Ewch i'r wefan

Disgrifiad

Swyddog Cyfathrebu (Y Wasg)

O fis Medi 2018 ymlaen bydd pencadlys S4C yn adleoli i Ganolfan S4C: Yr Egin yng Nghaerfyrddin.

Bydd hyn yn gychwyn ar bennod newydd a chyffrous yn hanes S4C gan ymgartrefu yn y gorllewin mewn canolfan cyfryngau newydd wedi lleoli mewn adeilad pwrpasol.

Yn sgil yr adleoli rydym yn chwilio am Swyddog Cyfathrebu (Y Wasg) i ymuno â’r tîm Cyfathrebu.

Fe fyddwch wedi gweithio fel newyddiadurwr/wraig neu swyddog y wasg ac wedi arfer sgwennu datganiadau a chopi bachog. Byddwch wedi arfer cysylltu â’r wasg i werthu stori, neu i dderbyn galwadau gan newyddiadurwyr

Byddwch yn defnyddio’ch profiad a sgiliau i hyrwyddo rhaglenni a gwasanaethau S4C. Hefyd byddwch yn ymwneud â cyfathrebu corfforaethol, rhagweithiol ac adweithiol y sianel.

Cyflog: £25,762 - £31,094 yn unol â phrofiad
Cytundeb: Parhaol
Oriau: Llawn amser

Lleoliad: Caerdydd tan fis Medi 2018, ac yna Canolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin.

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12:00 y prynhawn ar ddydd Llun 13 Awst 2018 at adnoddau.dynol@s4c.cymru neu'r tîm Adnoddau Dynol, S4C, Parc Tŷ Glas, Llanisien, Caerdydd, CF14 5DU.

Nid ydym yn derbyn CV.

Manylion Ychwanegol

Cliciwch ar y ddolen wefan uchod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd

Mae gwybodaeth ychwanegol am y swydd i weld isod

Defnyddiwch y dogfennau isod i wneud eich cais am yr hysbyseb swydd

Defnyddiwch y manylion cyswllt uchod i gysylltu â ni am fwy o wybodaeth

*Cofiwch sôn am wefan Lleol.cymru wrth ymateb*