Ballet Cymru: Cinderella

Trosolwg

Pryd: 07/07/2018

Amser: 07:30 pm - N / A

Lleoliad: Pontio

cyfarwyddiadau gyrru »

Gwybodaeth gyswllt

Ffordd Deiniol Bangor, Gwynedd, Cymru LL57 2TQ

Gwefan: https://www.pontio.co.uk/online/18Cinderella

E-bost: danfonwch e-bost

Ffôn: 01248 38 28 28

Disgrifiad

Dyma gyflwyniad ffres a gloyw Ballet Cymru o’r bale a seiliwyd ar y stori dylwyth teg oesol. Enwebwyd Ballet Cymru am wobr Cwmni Annibynnol Gorau yn y Critics’ Circle UK National Dance Awards yn 2017, a hwy oedd enillwyr Cynhyrchiad Dawns Gorau 2016 yng Ngwobrau Theatr Cymru.

Mae Ballet Cymru yn ymhyfrydu mewn bod yn wahanol, ac fydd Cinderella yn esiampl arall o hyn, gyda sgôr gerddorol wedi ei chomisiynu’n arbennig ac elfennau syrcas wedi’i cyfuno gyda dawns clasurol o’r safon orau. Bydd Ballet Cymru yn gweithio gyda’r cyfansoddwr arobryn Jack White a’r cwmni syrcas Citrus Arts i gonsurio byd hudolus.

Gyda choreograffi gan Darius James, enillydd Gwobr Cymru Creadigol, mae Ballet Cymru yn dod a’r stori oesol yma’n fyw gan ddefnyddio cymysgedd unigryw y cwmni o dechneg clasurol ac adrodd stori.

Addas ar gyfer oedran 5+
Mwy addas ar gyfer 7+