Cerddorfa Symffoni Prifysgol Bangor

Trosolwg

Pryd: 10/03/2019

Amser: 06:00 pm - N / A

Lleoliad: Pontio

cyfarwyddiadau gyrru »

Gwybodaeth gyswllt

Ffordd Deiniol Bangor, Gwynedd, Cymru LL57 2TQ

Gwefan: http://tickets.pontio.co.uk/Online/19BUSO

E-bost: danfonwch e-bost

Ffôn: 01248 38 28 28

Disgrifiad

Yr Athro Chris Collins (arweinydd)
Louise Farrenc: Symffoni Rhif 3 yn G leiaf, Op. 36
Igor Stravinsky: The Firebird (bale cyflawn)
Daeth y bale cyntaf a gomisiynwyd gan yr enwog Serge Diaghilev, The Firebird, i'r llwyfan ym Mharis yn 1910 mewn ffrwydrad o liw, egni a symud, gan effeithio ar bopeth o gyfansoddi cerddoriaeth i haute couture. Awdur ei sgôr hudolus oedd Igor Stravinsky, 28 oed ar y pryd, ac ynddo fe welwn arwyddion cyntaf yr holl elfennau a oedd i nodweddu cerddoriaeth yr ugeinfed ganrif.
Cafodd Trydedd Symffoni'r cyfansoddwr Ffrengig Louise Farrenc (1804-75) ei pherfformio gyntaf ym Mharis 61 mlynedd ynghynt. Gyda'r perfformiad hwnnw, llwyddodd Farrenc i herio confensiynau ei hoes a oedd, i raddau helaeth, yn gwahardd gwaith cyfansoddwyr benywaidd o'r neuaddau cyngerdd. Mae'n waith godidog, lle mae Farrenc yn dod â'i llais ei hun i idiom symffonig gyfoes Schumann a Mendelssohn.
Bydd y cyngerdd hwn hefyd yn cynnwys perfformiad concerto gydag enillydd cystadleuaeth unawdydd Prifysgol Bangor 2019.