Biff Organic Gwartheg Duon Cymreig
Trosolwg
Mae Fferm Tyllwyd wedi ei lleoli uwchben pentref Felingwm Uchaf. Fferm biff organig mewn ardal ddifreintiedig yw Tyllwyd.
Gwybodaeth Gyswllt
Fferm Tyllwyd Felingwm Uchaf, Sir Gaerfyrddin, Cymru SA32 7QEffôn: cliciwch yma i weld y rhif ffôn01267 290537 / 07715 827939

Cliciwch yma ar gyfer Sioe sleidiau. Gallwch hefyd glicio ar unrhyw un o'r lluniau i ddechrau sioe sleidiau.
Disgrifiad
Dyma peth hanes datblygiad busnes newydd ar Fferm Tyllwyd yn y flwyddyn 2003. Wrth edrych am ffyrdd i greu incwm ychwanegol i'r fferm roedd y syniad o werthu cig yn uniongyrchol i'r cwsmer yn apelio i ni fel teulu.
Roeddwn yn hyderus bod modd i ni ehangu busnes y fferm wrth werthu ein cig organig gwartheg duon Cymreig i'r cyhoedd. Felly dyma ni ar gychwyn 2003 yn paratoi taflenni a'u dosbarthu i'n ffrindiau a chysylltiadau a chychwn ar fusnes sydd erbyn heddiw yn llwyddiannus gyda galw cyson am ein cynnyrch. Penderfynwyd ar gynnwyd y bocs ac rydym wedi addasu yn gyson i anghenion y cwsmer a braf yw nodi fod nifer o'r cwsmeriaid cyntaf ar y pedwerydd bocs sydd yn rhoi sicrwydd bod y cynnyrch yn apelio.
Cafwyd llwyddiant arbennig hefyd mewn dwy gystadleuaeth sydd wedi hybu ein cynnyrch. Ym mis Mehefin mewn tŷ bwyta La Chaimiere yn Llundain, penderfynwyd gan ddeuddeg o brif cogyddion y ddinas fod ein filet o gig organig gwartheg duon Cymreig yn ennill wobr gyntaf ar safon, gwead, lliw, tynerwch a blas. Roedd hyn yn erbyn holl brydiau biff eraill y wlad hon a'r cyfandir. Ym mis Hydref 2003 cafwyd yr ail lwyddiant wrth ennill gwobr Efydd Gwir Flas Cymru yn categori 'newydd ddyfodiad' a chawsom ein gwobrwyo yn y Celtic Manor yng Nghasnewydd.
Lleoliadau
Felingwm Uchaf, Caerfyrddin