85% yn dweud bod tocynnau’r Eisteddfod yn rhy ddrud - y canlyniadau yma
Categori: Barn, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Newyddion

Gyda llawer o drafod ar y cyfryngau cymdeithasol ar bris mynediad i’r Eisteddfod eleni, mae canlyniadau ein holiadur, ‘Ydi pris mynediad i’r Eisteddfod Genedlaethol werth yr arian?’ wedi’n cyrraedd.
Manteisiodd Lleol.net ar y cyfle i gael golwg manylach ar farn pobl ac, yn bwysicach, i roi'r cyfle i’r Eisteddfod Genedlaethol ymateb i’r drafodaeth. Dros yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth dros 240 o bobl ymateb i’r holiadur ac mae’r canlyniadau wedi bod yn ddiddorol ac ychydig yn ofidus.
O’r holl ymatebion, roedd 80% o bobl yn yr Eisteddfod fel ymwelwyr, gyda’r gweddill naill ai’n cystadlu, yn gweithio neu’n arddangos.
Roedd 67% o bobl wedi prynu tocyn oedolyn am £20.00 ac fe wnaeth 68% o bobl nodi nad oeddent yn hapus gyda phrisiau tocynnau. Canran fechan (11%) o bobl oedd wedi manteisio ar y tocynnau cynnar.
Yn yr holiadur, roedd yna gyfle hefyd i awgrymu pris teg ar gyfer mynediad i’r wyl a’r swm mwyaf poblogaidd, gyda 30%, oedd £15.00.
Wedi anfon y canlyniadau at yr Eisteddfod, dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol:
"Mae’r Eisteddfod yn croesawu’r ymchwil hwn i brisiau tocynnau.
Rydym ni’n ceisio’n gorau glas i wneud yr Eisteddfod mor fforddiadwy â phosib, a dyna pam y gwnaethom ni gyflwyno’r cynllun ‘bargen gynnar’ eleni, gyda thocynnau unigol am £10 a thocynnau teulu am £20 i’r rhai oedd yn prynu ymlaen llaw.
Fe wnaeth miloedd lawer fanteisio ar y cynllun, ac yr oedd y tocynnau rhataf ar gael hyd at rai dyddiau cyn yr Eisteddfod. Mi fyddwn i’n annog eich darllenwyr chi felly i brynu ymlaen llaw flwyddyn nesa er mwyn arbed arian.
Roedd gennym ni nifer o gynigion eraill eleni, fel y tocyn wythnos a'r tocyn Maes B i bobl ifanc sydd ddim yn cael sylw yn eich holiadur chi.
O ran canlyniadau’r holiadur, mae hi’n costio oddeutu £3.5 miliwn y flwyddyn i gynnal Eisteddfod, ac mae’r arian o werthiant tocynnau yn rhan allweddol o’n incwm ni. Allem ni ddim cynnal Eisteddfod fel yr un yn Llanelli eleni heb yr incwm yma.
Eleni gwelwyd llawer o ddatblygiadau newydd ar y maes fel y Ty Gwerin, y Lolfa Lên a’r Pentref Drama, sy’n golygu bod yna lawer mwy i’w wneud ar y maes bellach. Rydym ni’n credu felly bod ein tocynnau yn cynnig gwerth da am arian o gofio faint o weithgareddau sydd ar y maes ac o gofio y caiff pobl fynediad am 8.00 y bore tan 11.00 yr hwyr.
Fodd bynnag, yr ydym ni’n awyddus i ddatblygu pecynnau newydd dros y blynyddoedd nesaf i wneud yr Eisteddfod yn fwy fforddiadwy. Dyna pam yr ydym wedi comisiynu gwaith ymchwil i edrych ar strategaethau prisio gwyliau ac atyniadau eraill er mwyn datblygu cynigion arbennig eraill i’r dyfodol.
Diolch i Elfed am yr ymateb, a chofiwch flwyddyn nesaf, bobl, i fanteisio ar y tocynnau rhad neu becynnau sydd ar gael i chi.
Parhewch i ddarllen i weld y canlyniadau llawn a chofiwch fod 'na gyfle i chi ymateb i’r canlyniadau ar waelod y dudalen:
Q1: Pa ddiwrnod/au aethoch chi?
Opsiynau Ateb |
Canran Ymateb |
Nifer Atebion |
|
Pob Dydd (Sadwrn - Sul) | 6.7% | 16 | |
Sadwrn (2ail) | 19.2% | 46 | |
Sul | 21.8% | 52 | |
Llun | 31.4% | 75 | |
Mawrth | 23.4% | 56 | |
Mercher | 34.7% | 83 | |
Iau | 33.1% | 79 | |
Gwener | 44.8% | 107 | |
Sadwrn (9fed) | 26.8% | 64 | |
Atebwyd |
239 | ||
Ni Atebwyd |
3 |
Q2: Beth oedd y prif reswm i chi fynychu'r Eisteddfod?
Opsiynau Ateb | Canran Ymateb | Nifer Atebion | |
Cystadlu | 16.0% | 38 | |
Arddangos | 2.1% | 5 | |
Gweithio | 20.3% | 48 | |
Ymweld | 80.6% | 191 | |
Arall | 8.0% | 19 | |
Atebwyd | 237 | ||
Ni Atebwyd | 5 |
Q3: Pa docyn/tocynnau isod oedd yn berthnasol i chi?
Opsiynau Ateb | Canran Ymateb | Nifer Atebion | |
Tocyn/tocynnau cynnar | 11.1% | 26 | |
Teulu 2+3 = £44.00 | 2.6% | 6 | |
Teulu 2+2 = £40.00 | 9.0% | 21 | |
Oedolyn = £20.00 | 67.1% | 157 | |
Pensiynwr = £18.00 | 8.1% | 19 | |
Myfyriwr = £12.00 | 11.5% | 27 | |
Plentyn 5-15 = £8.00 | 8.1% | 19 | |
Arall | 16 | ||
Atebwyd | 234 | ||
Ni Atebwyd | 8 |
Q4: A oeddech chi'n hapus gyda'r pris hwn?
Opsiynau Ateb | Canran Ymateb | Nifer Atebion | |
Oeddwn | 31.6% | 75 | |
Nac Oeddwn | 68.8% | 163 | |
Atebwyd | 237 | ||
Ni Atebwyd | 5 |
Q5: Mae pris mynediad i'r maes ar gyfer 1 oedolyn yn ystod yr Eisteddfod yn costio £20.00, beth yw eich barn chi am y pris yma?
Opsiynau Ateb | Canran Ymateb | Nifer Atebion | |
Rhy ddrud | 85.8% | 205 | |
Rhy rhad | 1.7% | 4 | |
Perffaith | 13.4% | 32 | |
Atebwyd | 239 | ||
Ni Atebwyd | 3 |
Q6: Yn eich barn chi beth yw pris teg ar gyfer mynediad i 1 oedolyn i Faes yr Eisteddfod (£20.00 ar hyn o bryd)?
Opsiynau Ateb | Canran Ymateb | Nifer Atebion | |
Llai na £10.00 | 7.1% | 17 | |
£10.00 | 25.1% | 60 | |
£11.00 | 0.8% | 2 | |
£12.00 | 14.6% | 35 | |
£13.00 | 1.7% | 4 | |
£14.00 | 5.4% | 13 | |
£15.00 | 30.1% | 72 | |
£16.00 | 2.1% | 5 | |
£17.00 | 0.4% | 1 | |
£18.00 | 3.8% | 9 | |
£19.00 | 0.0% | 0 | |
£20.00 | 8.4% | 20 | |
£21.00 | 0.0% | 0 | |
£22.00 | 0.0% | 0 | |
£23.00 | 0.0% | 0 | |
£24.00 | 0.0% | 0 | |
£25.00 | 0.0% | 0 | |
£26.00 | 0.0% | 0 | |
£27.00 | 0.0% | 0 | |
£28.00 | 0.0% | 0 | |
£29.00 | 0.0% | 0 | |
£30.00 | 0.4% | 1 | |
Atebwyd | 239 | ||
Ni Atebwyd | 3 |
Manylion yr holiadur
Cyfanswm o ymatebion: 242
Dechreuodd yr holiadur ar y wefan ar Awst 3ydd 2014 a orffennwyd ar Awst 12fed 2014.
Roedd yr holiadur yn weledol ar wefan Lleol.net yn unig
Cafodd yr holiadur ei hyrwyddo drwy ddefnyddio cyfrifon Trydar, Facebook, LinkedIn a e-gylchlythyr Gwefan Lleol.net
Cafodd dudalen yr holiadur 1143 o ymweliadau