A oes gennych chi syniad busnes?
Categori: Arian a Busnes, Newyddion

Hoffech chi’r cyfle i ennill £7,000 allai helpu droi’r syniad yn realiti?
Ydych chi’n barod i brofi eich syniad o flaen panel o bobl busnes?
Mae Menter a Busnes ar y cyd â Llywodraeth Cymru a gyda chymorth Telesgôp yn trefnu’r gystadleuaeth hon ar gyfer siaradwyr Cymraeg sydd am fyw a gweithio yng Nghymru.
Bydd y seremoni wobrwyo yn digwydd ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morganwg ar ddydd Mercher yr 8fed o Awst am 11.30 o’r gloch. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw’r 6ed o Orffennaf 2012
Enillwyr Gorsedd y Dreigiau 2011 - Saloni
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth
Os oes gyda chi newyddion am eich menter, prosiect, busnes, sefydliad neu rywbeth unigol, danfonwch at post@lleol.net ac fe wnawn roi'r neges ar led yn rhad ac am ddim.