Addysg cyfrwng Cymraeg i'r mwyafrif erbyn 2030

30/05/2017

Categori: Addysg, Newyddion

Bydd rhaid i'r mwyafrif o blant gael eu haddysgu mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg erbyn 2030 er mwyn cyrraedd targed Llywodraeth Cymru bod miliwn o siaradwyr yr iaith erbyn canol y ganrif, yn ôl gwaith ymchwil mudiad iaith.

Yn ôl gwaith ystadegol a gyhoeddir gan Gymdeithas yr Iaith ar faes Eisteddfod yr Urdd ddoe, ymhen ychydig dros ugain mlynedd bydd yn rhaid i 19 allan o'r 22 cyngor sir yng Nghymru sicrhau bod mwyafrif eu plant yn y system addysg cyfrwng Cymraeg. Ac, erbyn 2040, bydd rhaid i dros tri chwarter o blant saith mlwydd oed fod yn y gyfundrefn addysg cyfrwng Cymraeg.  

 

Yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr, safle Eisteddfod yr Urdd eleni, awgryma'r ymchwil y bydd rhaid i'r canran o blant saith mlwydd oed mewn addysg cyfrwng Cymraeg fwy na threblu, o 8.6% i 28.6%, erbyn 2030. Yn sir y Fflint, bydd rhaid i'r canran gynyddu o 5.7% i 20.4%, ac, yn Sir Gaerfyrddin o 55% i 84.1%.  Yng Nghonwy a Sir Ddinbych, er mwyn cyrraedd y targed cenedlaethol o filiwn o siaradwyr, bydd angen i'r awdurdodau gynyddu'r ddarpariaeth o tua chwarter plant yn mynychu ysgol Gymraeg i bron i 60%.  

 

Adolygiad

 

Daw'r cyhoeddiad wrth i'r cyn Aelod Cynulliad Aled Roberts gynnal adolygiad o Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg pob sir yng Nghymru. Yn siarad cyn i'r mudiad gyhoeddi'r ymchwil ar faes Eisteddfod yr Urdd, meddai Toni Schiavone, Cadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith:  "Dim ond un darn o'r jig-so yw'r ystadegau hyn, ond mae'n ddarn allweddol os yw'r Llywodraeth am gyrraedd ei tharged. Mae'n bwysig sylweddoli bod y targedau arfaethedig hyn yn seiliedig ar dybiaethau optimistaidd o ran newidiadau demograffig, felly dyma'r lleiafswm sy'n bosib ei ganiatáu o ran twf addysg Gymraeg er mwyn cyrraedd y filiwn o siaradwyr. Yn wir, mae 'na ddadl gref bod rhaid symud yn gyflymach ac yn bellach. Felly, yn y tymor byr, un o'r meini prawf pwysicaf i'r Llywodraeth yw sicrhau bod mwyfwy o athrawon yn cael eu hyfforddi i addysgu drwy'r Gymraeg. Fodd bynnag, rydym eto i weld newidiadau trawsnewidiol: newidiadau sydd eu hangen ar frys erbyn hyn.  

 

 

"Mae targedau o'r math yma, fel rhan o becyn o fesurau, yn allweddol er mwyn cyflawni'r dyhead trawsbleidiol i sicrhau bod yr iaith yn tyfu. Fel dywedon ni ddwy flynedd yn ôl yn ein dogfen weledigaeth, yn ogystal â'r elfen addysg, bydd angen mesurau i leihau'r allfudiad, o bobl ifanc yn enwedig, ynghyd â normaleiddio defnydd yr iaith ym mhob maes bywyd.  

"Mae ein haelodau lleol ni wedi ymateb a chraffu ar eu cynlluniau addysg cyfrwng Cymraeg lleol: maent yn annigonol a dweud y lleiaf. Mae'n rhaid i'r Llywodraeth ystyried system sy'n gosod targedau ar awdurdodau lleol, sy'n cynnwys lleiafswm o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Ry'n ni'n credu y dylai'r system orfodi awdurdodau i gynllunio sut y byddan nhw'n cyflawni eu targedau, er mwyn creu'r filiwn o siaradwyr."   

 

Disodli Cymraeg ail iaith

 

 

Mae’r mudiad yn credu bod rhaid, law yn llaw ag ehangu addysg cyfrwng Cymraeg ym mhob sefydliad, gweithredu cynllun y Llywodraeth i sicrhau bod pob plentyn yn astudio'r un cymhwyster Cymraeg o 2021, gan ddisodli Cymraeg ail iaith.  

 

Wrth gyfeirio at yr her mewn siroedd eraill, ychwanegodd Toni Schiavone, "Ar yr ochr gadarnhaol, heb os, mae bwriad y Llywodraeth i symud pob ysgol lan y continwwm o ran darparu mwyfwy o addysg cyfrwng Cymraeg, a'r penderfyniad i ddileu Cymraeg Ail Iaith, yn galonogol. Ym mhob sir, dylen ni ddisgwyl i'r gyfundrefn addysg sicrhau bod pob plentyn yn gadael ysgol gyda'r gallu i gyfathrebu a gweithio drwy'r Gymraeg."

 

"Mewn nifer o siroedd, dilyniant yn y system addysg cyfrwng Cymraeg yw'r her fwyaf. Yn siroedd fel Gwynedd, mae dileu'r opsiwn o sefyll yr arholiad ail iaith yn rhan hanfodol o wella'r sefyllfa, gan y bydd yn atal y posibiliad bod y system yn caniatáu i ddisgyblion golli eu gafael ar yr iaith. Mae'r diffyg dilyniant rhwng addysg gynradd Gymraeg ac ysgolion uwchradd yn broblem fawr mewn nifer o siroedd, yn enwedig yn y Gogledd a'r Gorllewin."  

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru