Ail enwi pont Hafren yn ennyn ymateb chwyrn

10/04/2018

Categori: Amgylchedd, Gwleidyddiaeth, Newyddion

Ers lansio’r ddeiseb ddydd Iau diwethaf, mae dros 30,000 o bobl wedi arwyddo yn gwrthwynebu ail enwi’r ail bont dros Afon Hafren yn Bont Tywysog Cymru.

Daw'r newid i gydfynd gyda 60 mlynedd ers i Dywysog Charles dderbyn y teitl ond mae'r ailenwi wedi ennyn ymateb chwyrn ar y cyfryngau cymdeithasol. 

 

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "I gadarnhau, fe wnaeth Alun Cairns ysgrifennu at y Prif Weinidog, Carwyn Jones, ynglŷn ag enwi'r bont y flwyddyn ddiwethaf, ac ni wnaethom ddatgan gwrthwynebiad."

 

Heb ymgynghori

 

Dywedodd Llywydd y Cynulliad, Elin Jones nad oeddynt wedi ymgynghori gyda Chynulliad Cymru i ailenwi'r bont eiconig. sy'n cysylltu Cymru a Lloegr. 

 

Mae cyfle i chi bleidleisio yma: 

 

Ydych chi'n cytuno gyda'r enw Pont Dywysog Cymru?

(Mae'r arolwg barn yma wedi cau)



 

Gofynnodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood ar ei chyfrif Trydar, ai joc ffwl Ebrill hwyr oedd y cyfan?. Fe roedd yr aelod Seneddol Llafur, Paul Flynn yn disgrifio'r penderfyniad fel un "chwerthinllyd" oedd yn "benderfyniad gwleidyddol".

 

Dyma ychydig o'r ymatebion ar Trydar: