Ail gychwyn casglu cocos ar lannau'r Ddyfrdwy
Categori: Amgylchedd, Arian a Busnes, Newyddion

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi y gall y gwelyau cocos ar aber afon Dyfrdwy agor am gyfnod cyfyngedig yr hydref hwn.
Yn gynharach eleni, dywedodd na fyddai'r gwelyau yn agor fel arfer ar 1 Gorffennaf ar ôl i arolygon ddangos gostyngiad sydyn yn nifer y cocos yn yr aber. Cynhaliwyd arolwg pellach o'r gwelyau ym mis Awst a oedd yn dangos bod tua 600 tunnell o gocos y gellid eu cynaeafu.
Mae hyn yn golygu bod digon o gocos yn yr aber i ddarparu'r 53 o gasglwyr gyda gwaith am ddau fis, i fwydo poblogaeth bwysig yr aber o adar hirgoes ac i adfywio'r gwelyau ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Dywedodd Tim Jones, Cyfarwyddwr Gweithredol Gogledd Cyfoeth Naturiol Cymru "Mae hyn yn newyddion da i bawb dan sylw ac yn dangos y gellir rheoli'r gwelyau hyn mewn ffordd sy'n helpu'r amgylchedd a’r economi.
Yn ol Tim Jones, "Byddai agor y gwelyau fel arfer ym mis Gorffennaf wedi cael goblygiadau difrifol ar gyfer eu dyfodol, a hynny fel rhan hanfodol o'r economi leol ac fel cartref i adar dros y gaeaf.Yn gweithio gyda'r gasglwyr cocos, dengys arolygon pellach bod digwyddiad anarferol iawn wedi digwydd ar y gwelyau eleni gyda nifer fawr o gocos ifanc yn ymddangor yn hwyr yn y flwyddyn."
Dywedodd Tim Jones ei fod yn hapus iddynt ailgychwyn casglu am gyfnod penodedig, "Mae hyn yn golygu bod y cocos yn drwchus iawn mewn mannau, ac rydym yn hapus i allu eu hagor i gasglwyr trwyddedig am ddau fis."
Hon oedd y flwyddyn gyntaf ers 2008 nad agorwyd y gwelyau ar 1 Gorffennaf, oherwydd gostyngiad mewn niferoedd. Mae'n debyg i hyn gael ei achosi gan nifer o ffactorau - gan gynnwys gor-gnydio y tymor diwethaf, gweithgareddau hel cocos anghyfreithlon ac achosion naturiol.
Creu diwydiant ffyniannus
Ychwanegodd Tim Jones, "Rydym yn awyddus i greu diwydiant ffyniannus, gynaliadwy.Ac mae'r ffaith y gallwn agor am gyfnod cyfyngedig eleni er gwaethaf bod llai o cocos ar gael yn golygu y gallwn barhau i reoli'r gwelyau mewn ffordd gynaliadwy sy'n dda ar gyfer casglwyr cocos, bywyd gwyllt a’r cocos eu hunain."
Bydd y gwelyau ar agor eleni o Fedi 21 am gyfnod o wyth wythnos.
Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru