Ail gyflwyno Datblygu i genhedlaeth newydd

28/04/2015

Categori: Cerddoriaeth, Iaith, Newyddion

Yn dilyn perfformiad cyntaf ers ugain mlynedd dros y penwythnos gan y grwp eiconig - Datblygu, mae Ankstmusik wedi cyhoeddi fod casgliad 'DATBLYGU 1985-1995' sydd wedi ei ail fastro, ar fin cael ei ail ryddhau. 

 

Dywedodd Emyr Glyn Williams, perchennog y label,  ‘Heb os Datblygu oedd y grwp mwyaf dylanwadol yn hanes canu roc tanddaearol Cymraeg ac mae’r casgliad yma yn dangos pam – caneuon unigryw, cerddoriaeth rhagorol, gonestrwydd a chariad law yn llaw a dicter a thristwch.’ 

 

Ychwanegodd, ‘Mae’r casgliad yn llawn uchafbwyntiau fel y clasuron pop ‘Y Teimlad’ a recordiwyd gan y Super Furries ar gyfer MWNG, ‘Mynd’, ‘Casserole Efeilliaid’, ‘Pop Peth’ law yn llaw a champweithiau personol fel ‘Ga if fod Sion Corn’ a ‘Maes E’.’

 


 

Ffurfiwyd Datblygu nol yn 1982 gan ddau fachgen ysgol David R.Edwards a T.Wyn Davies. Ymunodd Pat Morgan yn 1985 a dyma’r ‘line-up’ sydd i’w glywed ar fwyafrif y casgliad yma. Mae’r casgliad yn cynnwys senglau a recordiwyd gan y grwp ar gyfer recordiau Anhrefn, Ofn a Ankst a’r albwm Nadolig – ‘Blwch Tymer Tymor’ a thraciau unigol a recordiwyd ar gyfer recordiau amlgyfrannog gan gynnwys fersiwn o’r clasur gan Geraint Jarman ‘Merch Ty Cyngor’.

 

"Mae’r casgliad yma yn angenrheidiol ar gyfer unrhyw berson sydd yn ymddiddori mewn diwylliant a cherddoriaeth o Gymru’ yn ôl Emyr Glyn Williams, "Mae’r cd hefyd yn cynnwys rhagarweinaid egsliwsif gan canwr y Super Furry Animals – Gruff Rhys."

 

I gydfynd a’r casgliad yma mae Datblygu (David a Pat) wedi ail gydio mewn perfformio yn fyw am y tro cyntaf ers ugain mlynedd gyda perffromiad anghygoel fel rhan o wyl CAM yn Nghaerdydd ar Ebrill 25ain ble roedd cyfle i glywed caneuon newydd gan y grwp oddiar y record PORWR TRALLOD a fydd yn ymddangos yn yr Hydref.

 

Dyma’r caneuon sy’n rhan o’r casgliad: 

 

1.    Y Teimlad

2.    Nefoedd Putain Prydain (Cam o’r Tywyllwch-1985 – Recordiau Anhrefn)

3.    Hollol, Hollol, Hollol

4.    Cyn Symud i Ddim (Gadael yr Ugeinfed Ganrif -1986 – Recordiau Anhrefn)

5.    Braidd

6.    Casserole Efeilliaid

7.    Firws i Frecwast

8.    Mynd (Hwgr Grawth-Og – 1986 – Recordiau Anhrefn)

9.    Brechdanau Tywod (Dyma’r Rysait – 1988 – Recordiau Ofn)

10.  Merch Ty Cyngor (Hen Wlad Fy Nhadau – 1990 – Recordiau Ankst)

11.  Pop Peth (Pop Peth – 1990 – Recordiau Ofn)

12.  Santa a Barbara

13.  Sdim Eisiau Esgus

14.  Sgorio Dafydd Iwan Dyn Eira

15.  Ga i Fod Sion Corn

16.  Asid Amino

17.  3 Tabled Doeth ( Blwch Tymer Tymor – 1991 – Recordiau Ankst)

18.  Maes E (Maes E – 1992 – Recordiau Ankst)

19.  Amnesia

20.  Alcohol (Putsch – 1995 – Recordiau Ankst)