Amgueddfa Cymru yn cofio boddi Capel Celyn

21/05/2018

Categori: Celfyddydau, Gwleidyddiaeth, Hamdden, Newyddion

Mae gwrthrychau arwyddocaol o bentref Capel Celyn wedi cael eu rhoi i’r casgliad cenedlaethol yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, diolch i Gwyn Roberts a’i ferched, Nia Erain Griffith a Lois Elenid John.

Roedd mam Mr Roberts, y diweddar Mrs Martha Roberts, yn brifathrawes ysgol y pentref o 1957 i 1963. Yn dilyn boddi Cwm Tryweryn, fe dderbyniodd Mrs Roberts gloch, allwedd a lamp yr ysgol, ynghyd â dwy lamp o’r capel, fel cofnod o’r bennod bwysig hon yn hanes Cymru.

 

Cafodd pentref Capel Celyn a thiroedd cyfagos eu boddi yn 1965 er mwyn creu cronfa i gyflenwi dŵr i ddinas Lerpwl.

 

Heddiw fe wnaeth Gwyn Roberts a’i ferched gyflwyno’r gwrthrychau i Amgueddfa Cymru er mwyn i genedlaethau’r dyfodol ddysgu a chofio am y digwyddiad arwyddocaol hwn.

 

Dywedodd Elen Phillips, Prif Guradur Hanes Cyfoes a Chymunedol: “Mae pob gwrthrych yn Sain Ffagan yn bwysig a phob stori yn ychwanegu at y cof cenedlaethol. Ond weithiau, mae ambell i gaffaeliad yn rhoi ias lawr y cefn. Rydym yn hynod ddiolchgar i Mr Roberts a’r teulu am ymddiried y gwrthrychau hyn i’n gofal”.

 

Mae gan Sain Ffagan eisoes arwydd ffordd a chwpan a soser o Gapel Celyn. Bydd y gwrthrychau hyn i’w gweld yn oriel ‘Cymru’ o fis Hydref 2018 ymlaen. Yn y dyfodol bydd creiriau Mr Roberts yn cael eu harddangos i gyd-fynd â’r arddangosfa.

 

Trasiedi chwalu Capel Celyn

 

Dywedodd Mr Gwyn Roberts:“Er bod y creiriau hyn yn ran o hanes ein teulu, ac yn ddolen fyw rhyngom a thrasiedi chwalu Capel Celyn, roeddem yn ymwybodol eu bod hefyd o bwysigrwydd cenedlaethol. Pleser yw eu cyflwyno i ofal Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn y gobaith y byddant yn fodd i ymwelwyr y dyfodol yn ymdeimlo â thristwch colli brwydr y boddi. Er hynny, fel yr oedd fy Mam yn cael boddhad o ddweud dro ar ôl tro wrth blant yr ysgol, ‘Cymru biau’r dŵr rŵan, a ni ddaru ennill yn y diwedd!”