Amser newydd i'r Clwb Rygbi

25/08/2015

Categori: Chwaraeon, Hamdden, Newyddion

Bydd gemau byw Clwb Rygbi o’r Guinness Pro 12 ar gyfer tymor 2015-2016 yn cael eu darlledu ar S4C ar amser newydd – 2.15 ar brynhawn Sul - gan ddechrau gyda gêm Y Gleision yn erbyn Zebre ar Sul, Medi 6.

 

Bydd gêm Y Gleision yn erbyn yr Eidalwyr (cic gyntaf 2.30) yn cael ei darlledu’n fyw o Barc yr Arfau, Caerdydd fel rhan o arlwy cyffrous chwaraeon S4C ar gyfer y Sul yn cynnwys gemau byw'r Guinness Pro 12, goreuon rygbi Ffrainc - y Top 14 am 4.30 ac uchafbwyntiau o wahanol chwaraeon yn Clwb am 5.00.

 

Bydd gwasanaeth rhad ac am ddim Clwb Rygbi o’r Guinness Pro 12 a chystadlaethau clwb eraill ar brynhawniau Sul yn ychwanegol i raglenni’r sianel o Gwpan Rygbi’r Byd 2015. Bydd y sianel yn cynnig gwasanaeth swmpus o gemau byw, uchafbwyntiau a rhaglenni trafod a dadansoddi o Gwpan Rygbi’r Byd. Yn ystod y twrnamaint ac ar ambell adeg arall, bydd amseriad darlledu Clwb Rygbi weithiau’n amrywio.

 

Mae isdeitlau Saesneg a sylwebaeth Saesneg ar gael drwy'r gwasanaeth botwm coch/dewis iaith ar gyfer gemau byw.

 

pob gêm yn cyfri

 

Meddai Sue Butler, Golygydd Chwaraeon S4C: "Mae darlledu gêm fyw o’r Guinness Pro 12 ar yr amser newydd yn golygu bydd prynhawniau Sul yn llawn cyffro i ddilynwyr y gêm yng Nghymru. Gan fod y frwydr am leoedd yn y gystadleuaeth Cwpan Ewrop wrth galon ymgyrch y gynghrair, bydd pob gêm yn cyfri. Bydd hyn i gyd ar ben ein gwasanaeth cynhwysfawr Cwpan Rygbi’r Byd 2015, felly gall bawb sy’n caru rygbi edrych ymlaen am fisoedd cyffrous o wylio S4C.”

 

Cyflwynydd Clwb Rygbi, cynhyrchiad BBC Cymru ar S4C, fydd Gareth Roberts gyda Gareth Charles yn sylwebu. Meddai Geoff Williams, Pennaeth Chwaraeon BBC Cymru, “Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i gynhyrchu tymor arall o raglenni byw Clwb Rygbi. Mae’r gwerthoedd cynhyrchu uchel a safon glodwiw tîm cyflwyno BBC Cymru yn helpu i wneud Clwb Rygbi yn un o gyfresi blaenllaw’r Sianel. Rydym yn gobeithio bydd yr amser newydd yn blatfform i sicrhau parhad llwyddiant y brand a’r gwasanaeth.”

 

Os oes gennych chi ddatganiad neu newyddion am eich sefydliad neu fusnes yna danfonwch y manylion atom ni ac fe wnawn ni rhoi'r gair ar led. E-bostiwch datganiad@lleol.cymru