Angen blaenoriaethu Deddf Addysg Gymraeg, yn ôl mudiadau iaith

22/11/2018

Categori: Addysg, Gwleidyddiaeth, Iaith, Newyddion

Mewn cynhadledd yng Nghaerdydd heddiw, bydd mudiadau iaith yn datgan bod angen blaenoriaethu Deddf Addysg Gymraeg.

Mi fydd Cynhadledd grŵp ymbarél Dathlu’r Gymraeg yn trafod deddfwriaeth iaith yng Nghymru, a hynny yng nghyd-destun yr her o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mi fydd rhai o’r prif fudiadau, arbenigwyr a gwleidyddion sy’n gweithio ym maes y Gymraeg yn cwrdd yng Nghanolfan yr Urdd, Caerdydd i drafod sut orau i symud ymlaen.

 

Yn ôl ymchwilydd nodedig ym maes deddfwriaeth iaith Ewropeaidd, Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, a fydd yn annerch y gynhadledd, mae llawer o botensial i’w wireddu o hyd ym Mesur y Gymraeg 2011, tra byddai enillion pendant i’w gwneud o ddeddfu’n benodol ym maes addysg.

 

Meddai’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones: “Mae amser deddfu yn brin ar y gorau ac mae Brexit wedi creu argyfwng pellgyrhaeddol. Nid oes cefnogaeth amlwg i gynigion Bil y Gymraeg o du’r sector iaith. Felly, mae’n rhaid gofyn y cwestiwn ai dyma’r amser iawn i fwrw mlaen â hyn? Ond os am ddeddfu, yn hytrach na Bil Iaith Cyffredinol, ydy hi efallai’n well targedu meysydd penodol, fel Deddf Addysg Gymraeg, i ganolbwyntio ar genedlaethau’r dyfodol, i roi’r cyfle gorau i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”

 

Mae Dathlu’r Gymraeg yn grŵp ymbarél sy’n cynnwys yr Urdd, Merched y Wawr, Rhieni dros Addysg Gymraeg, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yr Eisteddfod Genedlaethol, yr undeb llafur UCAC, Mudiad Meithrin ac amrywiaeth eang o fudiadau eraill.

 

Amserol

 

Dywedodd Elin Maher, Cadeirydd Dathlu’r Gymraeg: “Mae’r gynhadledd hon yn un amserol er mwyn trafod y ffordd ymlaen o ran creu’r fframwaith deddfwriaeth fwyaf effeithiol ar gyfer y Gymraeg. Rydym ni fel grŵp ymbarél o fudiadau Cymraeg am sicrhau yr isadeiledd gorau go gyfer cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Yn hynny o beth, rydym yn croesawu’n fawr y gwaith gan banel Aled Roberts, sy’n ail-ystyried y gyfundrefn ar gyfer ehangu addysg Gymraeg, rhywbeth sy’n hollol ganolog i weledigaeth y Llywodraeth. Fel mudiadau sy’n dathlu a hyrwyddo’r Gymraeg bob dydd, rydym yn credu y dylai ddeddfwriaeth gynradd yn y maes penodol hwnnw fod yn flaenoriaeth.’"